Cyfrifydd dognau bwyd: eich canllaw i brydau o’r maint delfrydol
Ansicr am sut i sicrhau’r symiau cywir o’r bwydydd rydych yn eu coginio? O basta i datws, does dim angen dyfalu – gallwch goginio dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch gyda’n cyfrifydd dognau. Byddwn yn cyfrifo maint dogn cyfartalog ar gyfer y math o fwyd rydych yn ei baratoi – y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw nodi’r maint dogn cywir ar gyfer pob cynhwysyn ac i ffwrdd â chi i’r archfarchnad neu i’r gegin!
Cyfrifydd dognau
Cyfrifydd dognau bwyd
Dewiswch eich bwyd, y nifer o bobl a’u hoedrannau, a’r nifer o brydau bwyd. Yna, cliciwch ar ‘cyfrifo dogn’.
Mwy o wybodaeth am ddognau bwyd a meintiau prydau
Haciau syml ar gyfer gweini dognau delfrydol o fwyd
Cael pryd bwyd o’r maint iawn i blant gyda ‘phrydau o’r maint iawn i mi’.
Edrychwch ar ôl eich hunan a’ch anwyliaid drwy gael dognau iach o’r maint cywir.
Sut alla i fesur y symiau iawn o basta neu reis?
Rydyn ni oll wedi cael y profiad hwnnw: taflu’r reis neu’r pasta i’r sosban ar gyfer ein pryd bwyd, a gwneud naill ai rhy ychydig neu ormodedd ohono – a’r risg wedyn yw y bydd yn cael ei daflu i’r bin yn lle ei fwynhau. Helpwch y cynhwysion hanfodol hynny bara’n hirach gyda’n hac syml ar gyfer mesur. (Wrth gwrs, os ydych chi’n hoffi bod yn fanwl gywir gyda’ch rysetiau a mesur pethau ar y glorian, gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd dognau hefyd!)
Os ydych chi’n coginio reis neu basta fel rhan o’ch prif bryd bwyd, bydd angen tua dau lond llaw (neu 75g) o reis/pasta sych fesul person i gael dogn digonol. Os ydych chi’n eu coginio fel saig ar y naill ochr, mae’n debyg bydd un llond llaw (neu 37g) fesul person yn ddigon.
Mae’n bwysig cofio bod mesuriadau reis sych yn wahanol i reis wedi’i goginio, felly peidiwch â disgwyl i’ch reis bwyso’r un faint ar ôl iddo amsugno’r dŵr!
Wrth iddo amsugno’r dŵr, bydd pasta’n chwyddo a bydd yn llawer trymach na’r pasta sych oedd gennych i ddechrau, felly cofiwch ystyried hynny os ydych chi’n tracio’r bwyd rydych yn ei fwyta.
Beth i’w wneud gyda bwyd dros ben
Os byddwch yn coginio gormod, neu fod gennych fwyd dros ben: na phoener, mae rhywbeth y gallwch ei wneud o hyd! Storiwch eich bwyd dros ben yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod i gael cinio hawdd drannoeth. Mae’r rhewgell yn gyfaill ichi hefyd: rhewch eich bwyd a’u defnyddio rywdro eto.
Mae ein canllawiau bwyd a rysetiau yn cynnwys gwledd o tips defnyddiol am ba fwydydd y gallwch eu rhewi a sut i ddefnyddio cynhwysion dros ben mewn rysetiau blasus.