Community guidelines
Mae ein gwefan a’n cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn lleoedd i drafod a rhannu tips a syniadau i helpu i’n hysbrydoli ni oll i fanteisio i’r eithaf ar y bwyd rydyn ni’n hoff ohono.
Wrth gymryd rhan yng nghymuned ar-lein Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, boed hynny drwy rannu sylwadau a chynnwys ar ein gwefan neu ymuno â’r sgwrs ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, gofynnwn i bawb ddilyn canllawiau ein cymuned.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i gynnwys a rennir gan ddefnyddwyr ar www.lovefoodhatewaste.com, a phostiadau ar neu at gyfrifon Twitter, Facebook, Instagram a YouTube Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff. Nod y canllawiau hyn yw cynnig amgylchedd o safon i bawb sy’n cymryd rhan yn ein cymuned ar-lein.
Rhowch funud o’ch amser i’w darllen, a chofiwch amdanynt pan fyddwch yn postio neu’n cymryd rhan, os gwelwch yn dda.
- Gwnewch: sicrhau eich bod yn dilyn y Telerau Defnyddio ar y cyfrwng cymdeithasol.
- Gwnewch: parchu eraill sy’n cymryd rhan yn y drafodaeth.
- Gwnewch: cadw at y pwnc dan sylw.
- Peidiwch: rhannu gwybodaeth gysylltu bersonol, a allai fod yn perthyn i chi neu unigolion eraill.
- Peidiwch: rhannu cynnwys sydd â’r brif nod o hyrwyddo neu gymeradwyo gweithgaredd masnachol.
Byddwn yn dileu unrhyw sylwadau a rennir ar ein gwefan neu ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol nad ydynt yn cyd-fynd â chanllawiau ein cymuned, neu os credwn eu bod yn:
- Sarhaus neu’n anweddus.
- Yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol.
- Yn torri unrhyw hawliau eiddo deallusol.
- Yn torri unrhyw gyfraith neu reoliad.
- Sbam.
Cadwn yr hawl i atal a/neu riportio defnyddwyr ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n postio cynnwys y credwn sy’n torri’r canllawiau hyn, neu ganllawiau’r llwyfan honno ar y cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn riportio ac yn tynnu unrhyw broffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol a gaiff eu hagor sy’n defnyddio darluniau a logos Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff heb ganiatâd.
Argaeledd ac ymateb i negeseuon
Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein gwefan a’n cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod oriau swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener. Efallai y byddwn yn rhannu diweddariadau wedi’u hamserlennu ymlaen llaw gyda’r nos a dros y Sul ar brydiau, hefyd.
Er ein bod yn gwerthfawrogi eich adborth a’ch cyfraniadau, a byddwn yn ceisio ymateb pan bynnag fo modd, ni allwn ymateb yn unigol i bob un o’r negeseuon a dderbyniwn drwy ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dolenni i wefannau eraill
Ar wefan a chyfrifon Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bosibl y gwnawn gynnwys dolenni i sefydliadau ac unigolion eraill.
Rydym yn dilyn canllawiau penodol wrth benderfynu pa ddolenni i’w rhannu.
- Dim ond sefydliadau ac unigolion sy’n cefnogi ein hamcanion i helpu dinasyddion yn y Deyrnas Unedig i leihau eu gwastraff bwyd o’r cartref yr ydym yn cynnwys dolenni ar eu cyfer.
- Wnawn ni ddim cynnwys dolenni sydd â’r brif nod o hyrwyddo neu gymeradwyo gweithgaredd masnachol.
- Pan fo’n bosibl, rydym yn rhannu sawl esiampl o sefydliadau a all helpu, i gynnig dewis i bobl.
- Cadwn yr hawl i benderfynu peidio â rhannu dolen i sefydliadau eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni allwn fynd i drafodaethau ynghylch pam mae cais i rannu dolen wedi cael ei wrthod.
Sylwer nad yw WRAP (y sefydliad sy’n rhedeg Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff) yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau y rhannwn ddolenni iddynt, ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r farn a fynegir arnynt. Ni ddylid cymryd bod eu rhestru yn golygu cymeradwyaeth o unrhyw fath iddynt.