Skip page header and navigation

Arbed arian gydag arferion bwyd da

Arbed arian gydag arferion bwyd da

Fe fyddech chi’n synnu cymaint o arian y gallwch ei arbed drwy wneud newidiadau bach i’ch arferion.

Day ddyn ifanc yn gwenu ac yn coginio gyda'i gilydd mewn cegin fodern

Faint o arian allech chi ei arbed?

Fe wyddom fod cadw llygad ar eich arian yn debygol o fod yn flaenoriaeth amlwg ar hyn o bryd. Rydym am eich helpu i wneud i’ch cyllideb bwyd fynd ymhellach er mwyn ichi allu gwario eich arian ar y pethau sy’n bwysicaf i chi. Efallai nad ydych yn ymwybodol – mae bywyd yn brysur, wedi’r cwbl – ond mae taflu bwyd a ellid fod wedi’i fwyta yn debyg iawn i daflu arian yn syth i’r bin. Bydd yr arbedion yn cynyddu wrth ichi gymryd ambell gam i ddefnyddio bwyd cyn y dyddiad defnyddio erbyn, a chreu un neu ddau o brydau yn rhagor o bob trip i’r archfarchnad.

Mae amser yn werthfawr a bywyd yn brysur, felly mae’r camau hyn oll yn golygu gwneud addasiadau bach, hawdd i’ch arferion bwyd a chael ambell sgil a syniad ychwanegol ar flaenau’ch bysedd.

Mae’r camau bach yn troi’n newid mawr

Un ffordd wych o ddechrau cadw mwy o fwyd ar eich plât, a llai yn y bin, yw drwy edrych ar eich arferion bwyd wythnosol a dewis ambell newid y gallech ei wneud er mwyn i bethau weithio’n well i chi a’ch waled.

Ein hoff rysetiau sy’n garedig i’r gyllideb

Mae’n hawdd dibynnu ar rysetiau hoff a chyfarwydd pan fyddwn eisiau creu pryd sydyn o fwyd. Ond mae coginio’r un prydau gartref dro ar ôl tro yn gallu arwain at esgeuluso rhai cynhwysion sy’n llechu yn y rhewgell neu gefn y cwpwrdd (ac, wrth gwrs, ein harwain at estyn y fwydlen tecawê!).

Ewch i bori ein rysetiau blasus, wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddefnyddio’r bwyd sydd gennych ac arbed arian ar yr un pryd. Dyma rai o’n ffefrynnau, wedi’u rhoi ar brawf gan dîm Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff! 

Rhagor o driciau ar gyfer arbed arian

Yn ogystal â dysgu ambell rysáit newydd i’ch ysbrydoli i ddefnyddio mwy o gynhwysion, bydd dod o hyd i ffyrdd gwahanol o gynllunio a pharatoi, mynd i’r afael â’ch oergell a rhewgell, a storio bwyd yn y lleoedd iawn yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich bwyd. (Mae rhai o’n tips, fel gwirio tymheredd eich oergell, yn rhai y gallwch eu gwneud unwaith a pheidio poeni amdanyn nhw eto!)

Dyma rai o’n triciau bwyd gorau i’ch helpu i arbed arian.

Bydd mabwysiadu ambell i arfer bwyd syml yn eich arferion wythnosol arferol yn tynnu llawer o straen o’ch arferion bwyd, gan arbed amser ac arian i chi – a hynny wrth siopa a phan fyddwch gartref. Bydd hefyd yn sicrhau bod eich bwyd yn cael ei fwyta, nid ei daflu!

Mam a phlentyn yn coginio gyda’i gilydd, y fam yn rhoi dysgl yn y ffwrn
Blog category
  •  Arbed amser ac arian
  •  Siopa bwyd

Naw ffordd o arbed arian wrth siopa bwyd

Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, , 5 munud o waith darllen

Dyma naw ffordd o helpu i ysgafnhau’r baich ar eich waled pan gyrhaeddwch y til… ac achub bwyd rhag y bin, hefyd!

Llaw yn dal twbyn siocled poeth ac yn ei roi mewn cwpwrdd yn y gegin