Skip page header and navigation

Pam ddylwn i roi cynnig ar hyn?

Mae llawer ohonom yn aml yn picio i’r siop yn ansicr a oes gennym ni ddigon o fwyd fel llaeth, bara a thatws, felly rydym yn dueddol o ddyfalu a’i brynu ‘jyst rhag ofn’. Gall diwrnod siopa yn hawdd iawn droi’n ddiwrnod binio wrth i’n hen fwyd sy’n gwbl fwytadwy gael ei daflu i wneud lle i’r bwyd newydd.

Mae rhestr siopa’n ffordd hawdd o’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch wrth siopa bwyd, ac mae hyn nid yn unig yn eich helpu i ddiogelu ein planed, mae’n eich helpu i gadw at eich cyllideb hefyd. 

Drwy ddilyn ychydig o gamau syml i greu rhestr siopa sy’n gweithio i chi, byddwch yn gallu arbed amser wrth siopa ac osgoi dyblu’r bwydydd sydd gennych gartref yn barod. Rhowch gynnig ar rai o’n tips a haciau gwych i ddarganfod sut gallwch sicrhau eich bod yn gallu cael trefn ar eich siopa bwyd mewn cyn lleied o amser â phosibl bob wythnos.

 

Sut alla i wneud hyn?

Cam un

Dod o hyd i ddull o lunio rhestr sy’n gweithio i chi

Mae pawb yn wahanol, felly dyma ambell opsiwn i roi cynnig arnynt er mwyn dod o hyd i’r un sy’n gweithio orau i chi:

Ewch i’ch ap ‘notes’ a chreu nodyn o’r enw ‘Rhestr Siopa’. Yno, gallwch lunio rhestr o’ch eitemau bwyd arferol, ac yna dileu beth bynnag sydd gennych eisoes pan fyddwch chi wrthi’n gwirio beth sydd angen ei fwyta acw, ac ychwanegu eitemau newydd yn ôl y galw. I arbed amser, gallech gopïo a phastio eich rhestr o fwydydd arferol ar ben eich nodyn, fel nad oes rhaid ichi ei ailysgrifennu bob tro y byddwch yn llunio rhestr newydd.

Rhowch fwrdd magnet y gellir ei lanhau a’i ailddefnyddio ar eich oergell a’i ddiweddaru wrth ichi redeg allan o fwydydd ac wrth lunio eich cynllun prydau bwyd. Yna, y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw tynnu llun o’r bwrdd cyn mynd i siopa.

Os ydych chi’n ffafrio ysgrifennu eich rhestr er mwyn gallu ticio bob eitem wrth eu codi yn y siop, gallech ddefnyddio pad papur a phin ysgrifennu. Mae’n golygu y bydd angen ichi ei ysgrifennu i gyd bob tro; fodd bynnag, os mai dyna sy’n gweithio orau i chi wrth siopa, yna dyna’r dewis gorau i chi. Er hynny, efallai yr hoffech chi roi cynnig ar lunio eich rhestr ar eich ffôn a dileu’r eitemau ar ôl eu rhoi yn eich troli.

Weithiau mae bywyd yn rhy brysur, a phwysau amser yn cynyddu. Os nad oes gennych chi amser i lunio rhestr, yna beth am dynnu ‘shelffi’ o’ch oergell a’ch cwpwrdd i’ch atgoffa pa fwydydd sydd gennych gartref. 

Ambell gyngor defnyddiol arall

  • Cadwch restr wrth law o’r bwydydd arferol rydych yn dueddol o’u prynu bob wythnos – yna gallwch eu copïo a’u pastio mewn nodyn newydd ar eich ffôn a dileu’r hyn nad oes ei angen y tro hwn wrth ichi wirio beth sydd yn eich cypyrddau, oergell a rhewgell. Os mai rhestr ar fwrdd gwyn neu bapur rydych chi’n ei ddefnyddio – defnyddiwch y rhestr hon i’ch atgoffa o’r eitemau y gallech fod angen eu prynu. Bydd yn arbed ichi orfod ei ysgrifennu bob tro ac mae’n ffordd hawdd o’ch helpu i gofio eich bwydydd arferol.
  • Diweddarwch eich rhestr wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen yna gwiriwch y rhestr cyn mynd i’r siop – mae’n arbed ichi orfod ysgrifennu rhestr funud olaf cyn cychwyn i’r siop, gan ei bod yn debygol y bydd amser yn brin bryd hynny.
  • Ceisiwch drefnu eich rhestr yn unol â threfn y siop – seiliwch eich rhestr ar drefn y siop, gan grwpio bwydydd o’r un math e.e. becws, a chodwch eich bwyd rhewgell yn olaf (bydd yn cadw’n oer yn hirach wrth ichi fynd ag ef adref). 
  • Ychwanegwch fwyd at eich rhestr wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, wrth ichi redeg allan o rywbeth – dim ond eiliad mae’n ei gymryd. 
  • Cofiwch ychwanegu eitemau heblaw bwyd, hefyd e.e. siampŵ, past dannedd, papur toiled ac ati.

     

Cam dau

Cam dau 

Pa brydau bwyd fyddwch chi’n eu paratoi’r wythnos hon?

Cynlluniau prydau bwyd 

  • Bydd cael cynllun prydau bwyd wrth law yn arbed amser ichi wrth greu eich rhestr siopa, yn enwedig os ewch ati i lunio’ch rhestr siopa a chreu eich cynllun prydau bwyd ar yr un pryd. 
  • Bydd defnyddio cynllun prydau bwyd i lunio eich rhestr siopa yn tynnu’r gwaith dyfalu o’r gwaith o gyfrifo faint o fwyd fyddwch chi’n ei fwyta yn ystod yr wythnos. 
  • Mae cynlluniau bwyd yn eich helpu i gael rhesymeg i’ch rhestr siopa hefyd – os bydd rysetiau’n galw am fwydydd tebyg, e.e. gwreiddlysiau i wneud cyri, lobsgóws, cawl ac ati, yna gallwch gyfnewid y bwyd mewn rysáit benodol am rywbeth tebyg a defnyddio pecynnau cyfan yn hytrach na phrynu gwahanol fathau o fwydydd a defnyddio dim ond hanner y pecyn, e.e. gallech gyfnewid pannas am foron. Opsiwn arall gwych yw prynu eich ffrwythau a llysiau yn rhydd.

Pwy fydd gartref i fwyta, pwy fydd allan? Gwiriwch eich calendr i weld pwy fydd gartref, a phwy fydd allan amser bwyd yn ystod yr wythnos. 

Beth yw eich cyllideb siopa bwyd? Gwnewch nodyn o hyn a chynlluniwch eich prydau bwyd gyda’r gyllideb dan sylw.

 

Cam tri

Cam tri  

Gwiriwch pa fwyd sydd gennych yn y tŷ eisoes

  • Nid ffres yw’r unig ffordd o brynu bwyd – meddyliwch am ba fwydydd y gallwch eu prynu i’w rhoi yn eich cwpwrdd a’ch rhewgell hefyd. Bydd y bwyd hwn yn para’n hirach, yn enwedig pan fo’ch cynlluniau’n newid ar y funud olaf.  
  • Cofiwch edrych ar beth sy’n llechu yng nghefn yr oergell a’r cypyrddau hefyd – mae’n hawdd anghofio bwydydd pan fo bwyd newydd yn cael ei roi ym mhen blaen y cwpwrdd. 
  • Symudwch fwyd sydd angen ei fwyta nawr i flaen y silff, neu gallech greu silff ‘bwyta fi’n gyntaf’. Ewch i fwrw golwg ar ein hadnodd Arferion bwyd wythnosol am arferion bwyd cyflym eraill y gallwch eu mabwysiadu i arbed arian ac amser ichi. 
  • Bwyd anghofiedig – Os oes gennych chi fwyd yr oeddech yn bwriadu ei fwyta ond nad ydych wedi cael amser i’w ddefnyddio – nawr yw’r amser i wneud rhywbeth yn ei gylch. Rhewch ef (tips ar gael ar ein tudalennau bwyd), gwnewch bryd ohono a’i rewi at rywdro eto, neu rhowch ef i rywun a allai ei ddefnyddio, e.e. apiau fel Olio. 
  • Bwydydd sylfaenol – mae’n werth cadw rhywfaint o fwyd gartref sy’n eich helpu i ddefnyddio bwyd dros ben, felly cadwch olwg ar beth sydd yn eich cypyrddau e.e. tomatos tun, reis, pasta sych.

     

Cam pedwar, yr olaf

Cam pedwar   

Gwiriwch eich rhestr cyn mynd i siopa neu wneud archeb ar-lein i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr

  • Cymrwch gipolwg ar yr oergell, y cypyrddau a’r rhewgell – beth sydd angen ei fwyta, a beth sydd ar eich rhestr?
  • A yw eich cynlluniau wedi newid ar gyfer yr wythnos nesaf o ran pwy sydd gartref a phwy sydd allan, a fydd hyn yn effeithio ar yr amser sydd ar gael ichi goginio/paratoi’r prydau bwyd ar eich cynllun? 
  • Cofiwch wirio unrhyw gwponau sydd gennych a mynd â nhw gyda chi, e.e. cardiau ffyddlondeb archfarchnadoedd ac ati

Ac yn olaf, pan fyddwch yn y siop

  • Siopa a sganio – os gallwch, defnyddiwch ddyfais siopa a sganio – mae’n arbed amser ar bacio’r nwyddau gan eich bod yn pacio wrth fynd yn eich blaen, ac mae’n cyfrifo eich siopa wrth ichi sganio hefyd, sy’n eich helpu i gadw at eich cyllideb.
  • Cofiwch roi tic/dileu eitemau oddi ar eich rhestr unwaith maen nhw yn eich troli.  
  • Cynigion arbennig – oedwch am eiliad a meddwl – gofynnwch i chi’ch hun pa bryd byddwch yn bwyta’r bwyd hwn? Oes wir angen dwbl y bwyd hwn? … felly, a fydd yn arbed arian ichi mewn gwirionedd? Ystyriwch roi cynnig ar fwydydd brand y siop – yn aml iawn mae hwn llawn cystal a’r un mor faethlon â bwydydd y brandiau mawr, ac mae’n rhatach.
  • Cofiwch ddefnyddio eich cwponau – mae pob ceiniog yn cyfrif.
  • Diddanwch y plantos drwy roi gêm syml iddyn nhw ei chwarae tra byddwch yn mynd rownd y siop e.e. cyfrif faint o eitemau bwyd gyda phecyn gwyrdd maen nhw’n gallu eu gweld, neu gwnewch lun basged ar ddarn o bapur cyn gadael y tŷ a gofyn iddyn nhw dynnu llun bwyd i’w roi yn eu basged, neu gofynnwch iddyn nhw eich helpu i ddod o hyd i’r bwyd ar y silffoedd (os ydyn nhw’n gallu).
  • Bargeinion diwedd dydd – os byddwch yn mynd i siopa ar ddiwedd y dydd, yna gallech ddod o hyd i fargeinion gwych pan fo rhai bwydydd yn cael eu gwerthu’n rhatach. Gwiriwch a yw’r fargen yn un y byddwch yn ei defnyddio, fodd bynnag – yr unig fargen go iawn ar fwyd yw bwyd y gwnewch ei fwyta, ac nid ei daflu. Gallwch rewi bwyd hyd at ei ddyddiad defnyddio erbyn, os oes un arno. 

     

Yr hyn y gallech ddechrau sylwi arno

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i ddull sy’n gweithio i chi, ac yn parhau i’w arfer bob wythnos, fe ddaw’n rhan naturiol o’ch arferion wythnosol a bydd yn galw am lai o egni a gwaith meddwl i’w gynnal. Fe ddechreuwch hefyd ddod o hyd i bethau bychain eraill sy’n gwneud llunio rhestrau siopa’n haws i chi – rhannwch eich tips gorau gyda ni yn ein cymunedau ar y cyfryngau cymdeithasol (dolenni ar droedyn y dudalen). 

Dros amser, bydd siopa’n dod yn gyflymach ac yn haws, a byddwch yn arbenigwr go iawn ar gadw at eich cyllideb siopa bwyd, a dylech sylwi eich bod yn gwario ychydig llai ar fwyd, gan mai dim ond yr hyn a allwch ei fwyta y byddwch yn ei brynu. Fe wnewch chi sylwi hefyd bod llai o fwyd yn mynd i’r bin, gan y byddwch wedi lleihau’r arfer o brynu bwyd a oedd gennych gartref yn barod.