Dewch inni gael Dydd Mawrth Crempog diwastraff eleni!
Does dim byd gwell na gwneud cymysgedd crempog, gweld pwy yw’r un gorau am droi crempog, ac yna pentyrru’r topins blasus ar ben ffrwyth eich llafur!
P’un ai lemwn a siwgr traddodiadol ydych chi’n ei ffafrio, ynteu rywbeth mwy anturus (bacwn a surop masarn, efallai, neu bast siocled wedi’i daenu dros eich crempog), un peth y byddwch am ei osgoi yw gadael i’r un tamaid o’ch creadigaethau blasus fynd yn wastraff.
Cynhwysion sydd angen eu defnyddio? Rhowch nhw ar eich crempog!
Un o’r rhesymau y mae crempogau’n drît mor wych yng nghanol mis Chwefror yw eu bod yn hawdd eu hamrywio. Melys neu sawrus, gallwch roi pob math o bethau arnyn nhw, ac mae hynny’n eu gwneud yn ddewis gwych i’ch helpu i ddefnyddio’r bwydydd sy’n llechu yn yr oergell y mae angen eu defnyddio.
Os ydych chi’n rhoi cynnig ar grempogau sawrus am y tro cyntaf, cymrwch ysbrydoliaeth o’r crêpes (galettes) Ffrengig a’u holl dopins blasus. Tomatos yn mynd yn feddal? Darn o gaws angen ei ddefnyddio? Yna mae hi’n amser gwneud crempog caws a thomatos wedi’u torri’n fân! Mae ham, caws hufen, sbigoglys a llysiau mân wedi’u coginio’n opsiynau poblogaidd eraill a fydd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd yn eich oergell, a hynny wrth wneud eich Dydd Mawrth Crempog yn fwy blasus!
Mae crempogau melys yn ffordd wych o ddefnyddio bananas sy’n dechrau mynd ychydig yn rhy frown – gallwch eu stwnsio ac ychwanegu naddion siocled i wneud topin llawn blas. Felly hefyd unrhyw ffrwyth arall sydd gennych yn yr oergell a allai fod angen ei ddefnyddio. Beth am wneud salad ffrwythau a theimlo’r boddhad o gael eich pump y dydd mewn ffordd hwyliog a blasus?
Defnyddio crempogau dros ben
Wedi gwneud gormod? Os gwnaethoch chi bentwr o grempogau a methu â’u bwyta i gyd, na phoener! Fe fyddan nhw’r un mor flasus ar ddiwrnod arall!
Gallwch rewi crempogau wedi’u coginio drwy eu pentyrru mewn haenau rhwng darnau o bapur pobi a’u rhoi mewn cynhwysydd sy’n addas i’r rhewgell neu gallwch eu selio mewn bag rhewgell ailddefnyddiadwy. Pan fyddwch yn barod i’w bwyta, gallwch eu tynnu allan fesul un neu dynnu’r cwbl allan a’u dadmer yn y microdon. Brecwast hawdd a chyflym perffaith!
Ffordd arall o fwynhau eich crempogau dros ben yw eu torri i wneud crempogau bychain gyda’ch hoff dopins melys neu sawrus. Mae’r rhain yn gwneud canapés bach gwych os oes gennych barti ar y gorwel – beth am un gydag eog wedi’i gochi a chaws hufen?
Os oes gennych chi gytew crempog sawrus dros ben, mae’r rysáit fwy neu lai’r un fath ag un pwdin Efrog, felly beth am wneud pwdin Efrog i gyd-fynd â chinio rhost, neu bwdin Efrog gyda selsig ynddo i ddefnyddio eich selsig y diwrnod wedyn? Gallwch hefyd rewi cytew crempog, naill ai mewn cynhwysydd neu mewn bag. Pan fyddwch yn barod i’w ddefnyddio, dylid ei ddadmer yn yr oergell dros nos yn barod i’w goginio fore drannoeth.
Beth i’w wneud gyda thopins dros ben
Mae’n demtasiwn prynu llawer o ddanteithion ychwanegol ar gyfer topins Dydd Mawrth Crempog, ac yn aml gall hyn olygu y bydd gennych bethau yn y cwpwrdd sy’n cael eu defnyddio ddim ond unwaith y flwyddyn (ac na fyddant o reidrwydd yn cadw’n ffres tan y flwyddyn nesaf!). Er enghraifft, past siocled, mêl neu sudd lemwn.
Os felly, mae cynllunio sesiwn pobi’n ffordd dda o’u defnyddio. Gallech wneud brownis gyda phast siocled, teisen fêl neu deisen lemwn (gallwch ddefnyddio sudd lemwn potel i gymysgu’r eisin ar eu cyfer). Mae llawer o rysetiau sy’n defnyddio sudd lemwn potel os bydd angen ysbrydoliaeth arnoch.
Os oes gennych dopins ffres na wnaethoch lwyddo i’w defnyddio, gellir ychwanegu’r rhain at eich pobi hefyd. Fel arall, mae llus, mefus neu ffrwythau eraill – y dylid eu cadw oll yn yr oergell (heblaw banana a phinafal cyfan) – yn cyd-fynd yn dda ag uwd, grawnfwyd neu iogwrt Groegaidd i frecwast – a beth am ychwanegu llwyaid o’r mêl dros ben i roi blas melys iddo?
Yn olaf, os nad oes unrhyw rai o’r syniadau uchod yn apelio, mae’r rhewgell yn gyfaill ichi unwaith eto – mae lemwn yn rhewi’n dda iawn wedi’i dafellu, a gellir rhewi cynnyrch llaeth at ddiwrnod arall hefyd! Darllenwch fwy am fwydydd na wyddoch y gallech eu rhewi.