Sut i fwyta byrbrydau’n gynaliadwy
P’un ai y byddwch yn chwilota am fwyd dros ben yn yr oergell neu’n rhewi byrbrydau na chawsoch amser i’w bwyta hyd yma, dyma bopeth sydd arnoch angen ei wybod am fwyta byrbrydau mewn ffordd gynaliadwy.
Sut i osgoi prynu gormod
Mae’n hawdd iawn prynu gormod o fwyd – yn enwedig pan rydych yn crwydro rownd y siop yn llwglyd ac yn chwilio am fyrbrydau! Os ydych yn tueddu i fod â llygad mwy na’ch bol, yna gallwch leihau eich siawns o brynu gormod gydag ambell dric syml.
Mae’r cyntaf yn hawdd: ysgrifennwch restr siopa. I’ch helpu i wneud hyn, defnyddiwch ein Cyfrifydd Dognau Bwyd yn hytrach na cheisio dyfalu faint o gynhwysyn arbennig y byddwch chi angen ei brynu ar gyfer pob person.
Pan gyrhaeddwch y siop neu pan fyddwch chi’n gwneud eich archeb ar-lein, glynwch yn dynn at eich rhestr a pheidiwch â chael eich temtio gan yr holl gynigion arbennig – mae cynigion fel prynu-un-a-chael-un am ddim neu dau-am-un a chynigion tebyg yn ffordd dda o brynu mwy o fwyd nag y gallwch ei fwyta!
Storio byrbrydau yn y lle cwir
Rhowch oes cyn hired â phosibl i’ch byrbrydau trwy eu storio nhw yn y lle cywir a gwneud yn siŵr fod eich oergell ar y tymheredd cywir – rhywle rhwng 0 a 5°C – gan y gallai hyn roi dau neu dri diwrnod ychwanegol o ffresni i’ch bwyd!
Os mai ffrwyth yw eich byrbryd o ddewis, y lle gorau i storio’r rhan fwyaf o’r rhain yw yn yr oergell – yr unig eithriadau yw bananas, a fyddai’n mynd yn ddu. Gallwch dynnu’r ffrwyth allan o’r oergell i’w gynhesu i dymheredd yr ystafell tua 20 munud cyn ei fwyta os ydi’n well gennych beidio ei fwyta’n oer.
Os ydych yn mwynhau bwyta tost/bara wedi’i grasu neu grympedi fel byrbryd, cofiwch ei bod yn well storio bara mewn lle oer, sych a thywyll, fel bin bara. Mae’r un peth yn wir am fisgedi, ond ei bod hefyd yn syniad eu cadw mewn cynhwysydd wedi’i selio i’w hatal rhag meddalu.
Eich rhewgell yw eich ffrind pan mae hi’n dod i storio byrbrydau na allwch eu bwyta mewn pryd, ac mi fyddwch wedi’ch syfrdanu gan beth y gallwch ei rewi. Rhag ofn na allwch fwyta’r holl siocled sydd gennych, gall hwnnw fynd i’r rhewgell at rywbryd eto’n ddigon hapus mewn cynhwysydd wedi’i selio. Felly hefyd caws caled, cacennau, fflapjacs… mae’r rhestr yn ddiddiwedd! I’w ddadrewi’n ddiogel, un ai gadewch iddo feirioli’n araf yn yr oergell neu rhowch ef yn y microdon a gwasgu’r botwm dadrewi. Cymerwch gipolwg ar ein tudalennau bwyd am gyngor ar gynhwysion penodol.
Rheibio’r oergell a gweddnewid eich bwyd dros ben
O weddillion neithiwr i’r bag o datws yn y drôr llysiau sydd angen eu defnyddio, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd pan mae hi’n dod i greu tameidiau blasus i’w bwyta gyda beth bynnag sydd gennych yn eich cypyrddau a’ch oergell. Mae hi’n amser i fod yn greadigol yn enw byrbrydau!
Sleisiwch datws wedi eu pobi ers y diwrnod cynt a’u ffrio mewn olew olewydd - gratiwch unrhyw gaws sydd angen ei ddefnyddio drostynt i’w gwneud yn fwy blasus eto. Defnyddiwch lysiau wedi eu coginio yn y quesadillas blasus yma. Torrwch datws amrwd i mewn i ddarnau trwchus a phobwch nhw i wneud sglodion trwchus llwythog a fydd hefyd yn defnyddio unrhyw hufen sur, bacwn neu gaws sydd gennych yn yr oergell.
Torrwch foron amrwd, pupur a chiwcymbr a’i ddipio mewn hwmws (trïwch ein hwmws betys os oes gennych amser i’w sbario). Trowch y risoto a wnaethoch neithiwr i mewn i beli arancini blasus. Gallech hyd yn oed wneud creision o’r croen tatws, pitsa bach o grystiau bara neu nachos o’r llysiau!
Pan mai dim ond rhuthr siwgr fydd yn gwneud y tro, defnyddiwch y bananas sydd wedi mynd heibio eu gorau a siocled dros ben i wneud ein lolipops banana a siocled wedi rhewi bendigedig. Fyddwch chi byth yn edrych ar fanana ddu’r un peth eto!
Chwiliwch am eich cynhwysion ar ein tudalennau rysetiau am fwy fyth o ysbrydoliaeth. Cewch hyd i lawer mwy o syniadau gwych ar gadw arferion bwyd ardderchog ar ein tudalen arferion bwyd da, ac os oes gennych chi unrhyw
hoff fyrbrydau sy’n osgoi gwastraffu, cofiwch eu rhannu gyda ni ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol!