Mae cig eidion yn ddewis poblogaidd iawn i’w fwyta gartref ac mae ar gael ar amryw ffurf. Gellir coginio darnau gwahanol o gig eidion mewn amrywiaeth o ffyrdd o ginio dydd Sul rhost i stiw neu farbeciw. Mae’n llawn protein ac yn cyflenwi fitaminau a mwnau sy’n ein cadw’n iach.
Sut i'w storio
Sut i storio cig eidion ffres
Dylid storio’ch holl gig amrwd ar waelod yr oergell mewn cynhwysydd glan, aerglos.
Rhewi cig eidion
Gallwch rewi cig eidion yn amrwd neu wedi’i goginio. Mae’n well defnyddio bwyd o’r rhewgell o fewn 3 – 6 mis.
Storio cig eidion wedi’i goginio
Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod, a’r rhewgell am 3 – 6 mis.
Cig eidion – tips gwych
Sut i'w rewi a dadrewi
I’w rewi: Gellir rhewi cig eidion amrwd neu wedi’i goginio mewn bag neu gynhwysydd aerglos. Gallwch hefyd rewi cig a gafodd ei rewi o’r blaen os ydych wedi’i goginio wedyn.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio/aildwymo.
Ewch i fwrw golwg ar ein Canllaw Sut alla i ar rewi a dadrewi cig.
Bwyta’r bwyd cyfan
Defnyddiwch neu rhewch esgyrn a charcas y cig ar ôl ei rostio i wneud stoc. Defnyddiwch suddion y cig rhost i wneud grefi blasus.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Cig eidion dros ben – ffres
Torrwch unrhyw stêcs amrwd sydd dros ben yn stribedi a’u taro mewn saig tro-ffrio.
Cig eidion dros ben – wedi’i goginio
Gellir ychwanegu unrhyw gig wedi’i goginio at salad, brechdan, neu fara tortila i’w gael i ginio’r diwrnod wedyn.
Tips ar gyfer ei brynu
Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r cig eidion unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r pecyn cyfan mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ystyriwch brynu cig eidion wedi’i rewi yn lle cig eidion ffres.
Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Cig eidion
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
- Mae’n llawn protein, sydd yn angenrheidiol ar gyfer twf a thrwsio meinwe’r corff ac mae’n arbennig o bwysig ar gyfer cyhyrau ac esgyrn iach.
- Mae’n ffynhonnell dda o haearn, sy’n bwysig ar gyfer gwneud celloedd coch y gwaed. Y rhain yw’r celloedd sy’n cario ocsigen o amgylch y corff.
- Mae cig eidion yn uchel mewn braster dirlawn, a gall hwn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Cig eidion
Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.

Mae'r maro hwn wedi'i stwffio â briwgig yn hawdd ac yn flasus. Gallwch ddefnyddio eich hoff rysáit briwgig fel bolognese neu tsili (neu opsiynau llysieuol) i stwffio maro, felly arbrofwch.
