Tatws yw un o’r llysiau mwyaf amlbwrpas – gallwn eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd, fel eu stemio, eu pobi a’u stwnshio. Mae llawer o amrywiaethau sy’n rhoi gwahanol flas hefyd, o arlliw o flas cnau i rai â naws mwy menynaidd. Gellir defnyddio tatws i roi sylwedd i gawl, fel saig ar y naill ochr gyda phrif bryd bwyd, neu mewn salad. Maen nhw hefyd yn llawn maeth, yn ffynhonnell dda o ffibr a photasiwm.
Sut i'w storio
Sut i storio tatws ffres
Storiwch eich tatws yn yr oergell i’w cadw’n fwy ffres yn hirach. Mae ymchwil WRAP wedi canfod y gall tatws a gaiff eu storio yn yr oergell bara mwy na thair gwaith yn hirach o’i gymharu â’u storio ar dymheredd yr ystafell, fel mewn cwpwrdd.
Rhewi tatws
Gellir rhewi tatws wedi’u coginio (yn cynnwys tatws stwnsh) am hyd at 3 mis. Nid yw tatws amrwd yn rhewi’n dda.
Storio tatws wedi’u coginio
Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod, a’r rhewgell am 3 – 6 mis.
Tatws – tips gwych
Sut i'w rewi a dadrewi
Sut i’w rhewi: Gadewch i datws wedi’u coginio oeri cyn eu rhewi, ac yna rhowch nhw mewn bag neu gynhwysydd aerdyn. Nid yw tatws amrwd yn rhewi cystal, felly dylid eu coginio’n rhannol neu’n llawn cyn eu rhewi. Rhewch nhw am hyd at 3 mis.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Yn ddelfrydol, dylid eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn eu coginio/aildwymo. Rhostiwch datws wedi’u berwi’n syth o’r rhewgell – rhowch nhw yn y ffwrn gydag ychydig o olew i’w crasu.
Bwyta’r bwyd cyfan
Does dim angen plicio tatws – dim ond eu sgrwbio’n dda.
Gwneud tatws stwnsh llyfn gyda’r crwyn yn dal arnynt – Torrwch datws glân, cyfan yn giwbiau bychain a’u berwi am 15 munud – yna stwnsiwch nhw gyda menyn a llaeth a wnewch chi ddim hyd yn oed sylwi ar y crwyn, ond byddwch yn elwa o’r holl faeth ynddyn nhw. Os oes angen ichi eu plicio, defnyddiwch bliciwr yn hytrach na chyllell gan y bydd hyn yn lleihau’r gwastraff. Defnyddiwch y crafion i wneud creision cartref. Ychwanegwch halen a phupur, a’u sesno gyda beth bynnag arall a ddymunwch, yna eu pobi mewn ffwrn boeth.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Tatws dros ben – wedi’u coginio
Gallech eu stwnshio a’u cyfuno gyda physgod a pherlysiau i wneud teisen bysgod neu eu ciwbio a’u cymysgu gyda mayonnaise i wneud salad tatws. Tatws pob dros ben? Sleisiwch y rhain yn lletemau, taenu chydig o sbeis arnynt, a’u pobi yn y ffwrn, neu gallech dynnu’r tu mewn allan, ei gymysgu â bacwn a chaws neu hufen sur / dip a pherlysiau, cyn eu stwffio’n ôl gyda’r cymysgedd a’u pobi yn y ffwrn. Mae yna wledd o opsiynau!
Tips ar gyfer ei brynu
Ystyriwch brynu eich tatws yn rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Ystyriwch gyfnewid datws ffres am datws wedi’u rhewi. Gallwch brynu tatws rhost, stwnsh, trwy’u crwyn, croquettes, patis tatws, rosti, oll wedi’u rhewi… Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Mae tatws ar gael mewn tuniau ac wedi’u sychu hefyd.
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Tatws
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
- Ffynhonnell dda o fitamin C sy’n helpu i gadw’ch croen yn iach.
- Mae tatws yn ffynhonnell dda o ffibr, sy’n helpu gyda threuliad.
- Maen nhw hefyd yn cynnwys potasiwm, mŵn sy’n helpu i reoli cydbwysedd hylifau yn y corff, a hefyd yn helpu cyhyr y galon i weithio’n iawn.
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Tatws
Mae'r pryd hwn yn ddelfrydol ar gyfer swper yn ystod yr wythnos gan mai dim ond deng munud y mae'n ei gymryd i'w baratoi ac mae'n defnyddio un ddysgl yn unig ar gyfer coginio. Defnyddiwch eich hoff amrywiaeth o selsig a chyfnewidiwch y pannas am datws i gael canlyniad yr un mor flasus.
Rysáit flasus, cyflym a hawdd ar gyfer draenog y môr sy'n dda ar gyfer defnyddio hufen sengl a lemwn dros ben.