Pot ffa Boston
Pot ffa Boston
Cynhwysion
Peli cig
Ffa Boston
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig, a hynny trwy ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘ddadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Cynheswch y ffwrn i 200°C/180°C Ffan/nwy 7.
I wneud y briwsion bara dylid rhwygo’r bara a’i roi mewn prosesydd bwyd a’i droi ymlaen am ychydig eiliadau tan fod y bara yn debyg i friwsion bara mân. Fel arall, gratiwch y bara yn fân.
Rhowch y briwsion bara a gweddill y cynhwysion peli cig sydd ar ôl, ac eithrio’r olew, yn y ddysgl a’u cymysgu’n dda tan fod y cynhwysion wedi’u cyfuno ac yna defnyddio eich dwylo i wneud 24 pêl o faint cyfartal tua maint cnau Ffrengig. Rhowch 12 pêl o’r neilltu i’w rhewi a rhoi’r peli sy’n weddill ar badell rostio bas wedi’i iro’n ysgafn ac yna brwsio’r peli yn ysgafn gydag olew a’u pobi am 20 munud tan eu bod wedi coginio drwyddynt.
Yn y cyfamser i baratoi’r ffa Boston cynheswch yr olew mewn sosban a ffrio’r garlleg, winwnsyn a phupur yn ysgafn am 5 munud tan eu bod wedi meddalu.
Gwasgarwch y paprica mwg dros y cynhwysion a’i goginio’n ysgafn am funud yna ychwanegu’r saws barbeciw, ffa pob a hanner y stoc. Mudferwch yn ysgafn am 10 munud, gan ychwanegu gweddill y stoc os yw’r saws yn drwchus.
Tynnwch y peli cig o’r ffwrn a’u hychwanegu at y saws, gan eu troi’n ysgafn tan fod y peli wedi’u gorchuddio â saws.
Rhowch gynnig ar eu gweini gyda sglodion trwchus, reis, pasta neu fara. Mae’r pryd hwn hefyd yn dopin gwych ar gyfer taten drwy’i chroen. Gallwch ddefnyddio peli heb gig llysieuol parod i wneud y pryd o fwyd hwn yn un llysieuol.
Rhewi a storio: Rhewi’r peli cig heb eu coginio mewn blwch rhewgell rhwng papur memrwn ac yna eu dadmer yn yr oergell a’u defnyddio cyn pen 24 awr, a’u coginio fel y manylir uchod. Gellir rhewi ffa Boston ond mae’n well eu bwyta’n ffres. Os nad oes gennych chi rewgell fe allech chi goginio’r peli cig ar yr un pryd a’u storio yn yr oergell am hyd at ddau ddiwrnod, fel arall byddai modd i chi haneru’r rysáit ar gyfer y peli cig.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.