Cawl corbys heb wario gormod
Cawl corbys heb wario gormod
Yn well byth, mae ond yn costio 20 ceiniog y rhan – ffracsiwn o'r hyn y byddech chi'n ei dalu am yr hyn sy'n cyfateb i gawl crand o archfarchnad. Mae'r cawl hefyd yn addas ar gyfer pobl figan, cyn belled nad yw'r stoc a ddefnyddir yn cynnwys unrhyw gynhyrchion anifeiliaid.
Maetholion fesul rhan: Calorïau (kJ) 578; Calorïau (kcal) 137; Protein 8.9; Braster 1.2; o fraster dirlawn 0.1; Carbohydrad 21.0; sy’n siwgr 3.0; Ffibr 3.0; Sodiwm 1.5

Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Pliciwch y winwnsyn a’r foronen a’u torri’n fân a’u rhoi mewn sosban fawr gyda’r stoc a’r corbys. Mudferwch, wedi’i orchuddio, am 25 munud tan fod y corbys yn chwalu a gadael iddo oeri a’i droi’n hylif.
Ail-gynheswch i weini a gallwch ychwanegu at y blas gyda sudd lemwn, halen, pupur, cwmin a tsili.
Awgrym ar gyfer y rhewgell: Mae’n werth gwneud meintiau dwbl a rhewi’r cawl hwn mewn rhannau. Peidiwch ag anghofio defnyddio lemwn, mae’n gwneud byd o wahaniaeth.
Amrywiadau: Gellir torri llysiau eraill a’u coginio gyda’r corbys, ond peidiwch â chynnwys tatws gan y byddant yn tueddu i wneud y cymysgedd yn ludiog.
Cofiwch rewi unrhyw rannau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn yn lle ei daflu yn y bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.