Mae porc yn cyfeirio at ddarnau o gig mochyn amrwd, heb ei halltu, a gellir ei brynu ar amryw ffurf wahanol yn cynnwys golwythion, asennau breision, a darnau mwy ar gyfer eich cinio rhost. Yn ogystal â’u rhostio, gellir ffrio porc mewn padell, ei grilio neu ei goginio yn y crochan araf. Mae porc yn ffynhonnell o brotein ac mae hefyd yn cynnwys fitamin B12 a mwnau fel haearn a sinc.
Sut i'w storio
Sut i storio porc ffres
Dylid storio’ch holl gig amrwd ar waelod yr oergell mewn cynhwysydd glan, aerglos i’w atal rhag cyffwrdd pethau eraill neu ddiferu arnynt. Storiwch hyd at ei ddyddiad defnyddio erbyn. Peidiwch â’i fwyta ar ôl y dyddiad defnyddio erbyn.
Rhewi porc
Gellir rhewi porc amrwd ac wedi’i goginio am rhwng 3 – 6 mis (gwiriwch y deunydd pacio am unrhyw fanylion penodol). Gallwch roi porc i’w rewi tan ei ddyddiad defnyddio erbyn.
Storio porc wedi’i goginio
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod, a’r rhewgell am 3 – 6 mis.
Porc – tips gwych
Sut i'w rewi a dadrewi
Sut i’w rewi: Gwahanwch sleisys o borc amrwd gyda phapur gwrthsaim a’u selio mewn cynhwysydd aerglos cyn eu rhewi. Cofiwch ychwanegu label sy’n nodi’r cynnwys a’r dyddiad y cafodd ei rewi. Gallwch roi porc amrwd i’w rewi tan ei ddyddiad defnyddio erbyn. Ar ôl y diwrnod defnyddio erbyn, mae’n anniogel ei fwyta, hyd yn oed os yw wedi cael ei storio’n gywir ac yn edrych ac yn arogli’n iawn.
Yn ddelfrydol, defnyddiwch y bwyd yn eich rhewgell o fewn 3 i 6 mis, ond mae’n werth gwirio’r pecyn am unrhyw ganllawiau rhewi sy’n benodol i’r cynnyrch hwnnw.
I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn eu coginio/aildwymo.
Bwyta’r bwyd cyfan
Defnyddiwch neu rhewch esgyrn a charcas y cig ar ôl ei rostio i wneud stoc rywdro eto.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Dylid coginio, bwyta neu rewi porc hyd at y diwrnod defnyddio erbyn. Unwaith mae porc amrwd wedi’i ddadrewi, dylid ei goginio o fewn 24 awr. Ar ôl ei goginio, bydd yn para cwpl o ddyddiau yn yr oergell, neu gellir ei rewi drachefn. Dylid ei ddadrewi a’i fwyta o fewn 24 awr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cyfarwyddiadau ar y pecyn ar ôl ei brynu.
Torrwch unrhyw borc amrwd sydd dros ben yn stribedi a’i daro mewn saig tro-ffrio. Gellir ychwanegu unrhyw gig wedi’i goginio at salad, brechdan, neu fara tortila i’w gael i ginio’r diwrnod wedyn.
Tips ar gyfer ei brynu
Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ceisiwch brynu porc lleol, er mwyn lleihau eich ôl-troed (effaith ar ein planed).
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Porc
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
- Ffynhonnell protein y mae ei angen ar y corff i dyfu a thrwsio cyhyrau ac esgyrn.
- Ffynhonnell dda o fitamin B12 sy’n helpu’r corff wneud celloedd gwaed coch a chadw’r system nerfau’n iach.
- Mae porc yn uchel mewn braster dirlawn, a gall hwn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon.
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Porc
Mae'r rysáit hon yn wych i grŵp o bobl fynd ati i adeiladu eu fajitas eu hunain.
Mae'r rysáit hon yn cynnwys stwffin bricyll cain gyda saws seidr melys ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio bara dros ben.
Dyma bryd o fwyd ar gyfer bod yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben. Gallwch eu cael yn boeth neu eu coginio'r noson cynt i’w gael i ginio’n oer yn eich gwaith. I gael y canlyniadau gorau, cadwch eich llysiau dros ben yn yr oergell gyda'ch cig rhost nes bydd eu hangen arnoch.