Pasteiod gyda chinio dydd Sul dros ben
Pasteiod gyda chinio dydd Sul dros ben
Mae'r rysáit yn gwbl hyblyg a gellir ei addasu i gynnwys pa bynnag gynhwysion sydd gennych ar ôl o'ch cinio rhost. Bydd yn wych cael pasteiod gwahanol gyda llysiau tymhorol trwy gydol y flwyddyn.
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Cynheswch eich ffwrn i 180°C.
Defnyddiwch ddysgl gymysgu fawr, gafael yn y foronen wedi’i choginio a’i mathru rhwng eich bysedd i’r bowlen, ac yna mae angen gwneud yr un peth gyda’r swejen a’r daten a chymysgu’r cig, y pys a’r grefi i mewn a’u cymysgu tan ei fod wedi’i gymysgu’n gyfartal.
Cymerwch y does wedi’i rolio’n barod a thorri cylch tua 25cm ar draws (fel arall gallwch ddefnyddio plât cinio maint canolig i dorri o gwmpas). Paciwch y llenwad yn gadarn ar hyd y llinell ganol gan adael ymyl 2.5cm ar yr ymylon.
Brwsiwch o amgylch ymyl y does gyda’r wy wedi’i guro ac yna codi dwy ochr y does yn ofalus fel eu bod yn cwrdd ar y top, yna eu pinsio gyda’i gilydd i’w selio, gan sicrhau nad oes unrhyw fylchau.
Codwch y bastai’n ofalus ar glawr pobi wedi’i leinio â saim ac yna brwsio’r bastai gyda’r wy cyn ei bobi am 45 munud tan ei fod yn euraidd.
Gweinwch a’i fwynhau.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Yn syml, dylid ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.