Ffiled porc seidr
Ffiled porc seidr
Mae gwneud stwffin cartref yn ffordd wych o ddefnyddio bara sydd dros ben a gellir storio'r briwsion bara yn y rhewgell i'w defnyddio rywdro eto.
I gael fersiwn llysieuol o'r pryd hwn, gwnewch y stwffin yn beli a'i weini gyda thorth cnau rhost.
Cynhwysion
Stwffin
Saws
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C Ffan/Nwy 4.
Torrwch hollt i lawr canol y ffiled porc tan tua 2cm o’r gwaelod ac yna agor y ffiled fel ei fod yn gorwedd yn fflat ar fwrdd torri. Gorchuddiwch â haenen lynu yna gan ddefnyddio rholbren i’w fflatio i drwch o 2cm ac yna thaflu’r haenen lynu.
Ar gyfer y stwffin, gwnewch friwsion bara trwy rwygo’r bara a’u rhoi mewn prosesydd bwyd am ychydig eiliadau tan fod y bara yn friwsion bara mân. Fel arall, gratiwch y bara yn fân ac yna rhoi’r briwsion bara mewn dysgl gymysgu fawr gyda gweddill cynhwysion y stwffin. Ychwanegwch flas gyda phupur du a’i gymysgu’n dda nes bydd yr holl gynhwysion wedi’u cyfuno.
Rhannwch y ffiled yn ddau ddogn yna rhowch y stwffin yn gyfartal ar hyd canol y ddwy ffiled. Rholiwch bob ffiled, gan ddechrau gyda phen hir ac yna gan ddefnyddio llinyn cegin i glymu’r ffiledau bob 5cm. Gellir gweini’r stwffin hefyd wedi’i rolio’n beli a’i bobi â golwythion porc.
Ar yr adeg hon, gellir rhoi un ffiled wedi’i stwffio i’r naill ochr i’w rhewi.
Rhowch weddill y ffiled mewn padell rostio fach, ac ychwanegu blas gyda phupur du ac arllwys y seidr drosto. Gorchuddiwch y tun gyda ffoil a’i roi yn y popty am 35 munud. Tynnwch y ffoil yn ystod y 10 munud olaf o goginio.
Trosglwyddwch y porc i blât cynnes i orffwys ac arllwys y sudd seidr i mewn i sosban fach tan ei fod yn berwi, yna mudferwch yn ysgafn am 5 munud a’i dynnu oddi ar y gwres a churo’r crème fraîche i mewn.
Os nad yw’r saws wedi tewychu, rhowch ef yn ôl ar y gwres am ychydig funudau a’i fudferwi. Torrwch y porc yn chwe darn gwastad a’i weini gyda’r saws seidr.
Mae’r rysáit hon yn flasus wedi’i gweini gyda thatws hufennog a llysiau tymhorol.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.