Fajitas porc crimp
Cynhwysion
Ar gyfer y marinâd
Ar gyfer y salsa
Ar gyfer y llenwad
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cymysgwch y marinâd gyda’i gilydd a throi’r porc wedi’i rwygo ynddo i’w orchuddio a’i roi i’r naill ochr.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Ar gyfer y salsa, chwarterwch y tomatos a thynnu’r hadau. Torrwch nhw’n fân a’u rhoi mewn dysgl a haenu’r dail basil un ar ben y llall, eu rholio a’u sleisio fel bod gennych rubanau basil cul, ychwanegwch y rhain a gweddill y cynhwysion i’r ddysgl a’u troi ac yna ychwanegu blas.
Cynheswch badell ffrio tan ei fod yn boeth a thaflu ychydig o olew i mewn, yna ffrio’r porc a dal ati i daflu’r cynhwysion o amgylch y badell tan ei fod ychydig yn grimp ac yn boeth. Rydych chi nawr yn barod i weini swper!
Gallwch naill stemio’r bara tortila neu eu rhoi yn y microdon. Dilynwch gyfarwyddiadau’r pecyn. Rhowch bopeth at ei gilydd ar y bara tortila, ei lapio a cheisio ei fwyta heb wneud llanast!
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.