Pwdin siocled meddal
Pwdin siocled meddal
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Toddwch y menyn yn araf dros wres isel mewn sosban. Unwaith y bydd wedi toddi tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu’r siocled.
Curwch y wyau a’r siwgr gyda’i gilydd tan eu bod wedi’u cyfuno’n dda, yna ychwanegu’r blawd.
Trowch y ddau gymysgedd gyda’i gilydd a thorri’r pwdin Nadolig i mewn i’r gymysgedd.
Arllwyswch i mewn i fowldiau menyn, yn ddelfrydol dysglau pwdin bach. Pobwch ar 190ºC am 10-12 munud, gan wneud yn siŵr bod y canol yn dal i redeg.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.