Tost Ffrengig sawrus
Tost Ffrengig sawrus

Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Curwch yr wyau mewn dysgl ac ychwanegu ychydig o laeth ac ychydig o halen a phupur.
Trosglwyddwch i ddysgl neu blât bas a socian y bara yn y cymysgedd wy am ychydig funudau ar bob ochr.
Yn y cyfamser, cynheswch badell ffrio ar wres canolig i uchel ac ychwanegu’r menyn.
Pan fydd y menyn yn dechrau brownio, ychwanegwch y bara sydd wedi bod yn y gymysgedd wy i’r badell a’i ffrio am ychydig funudau neu tan fod yr ochr isaf yn troi’n frown euraidd. Trowch â sbatwla a gwneud yr un peth ar yr ochr arall.
Trosglwyddwch i blât gweini, a thra bod y tost yn dal yn boeth, gratio ychydig o gaws drosto a’i adael i doddi ychydig ac yna ychwanegu llond llaw o gennin syfi wedi’u torri a’u gweini ar unwaith.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.