Sleisys cacennau bisgedi siocled, cnau Ffrengig a llus
Sleisys cacennau bisgedi siocled, cnau Ffrengig a llus
Oeri’r cacennau yn yr oergell yn hytrach na’u pobi yn y ffwrn yw'r allwedd i'r deisen ffrwythau, cnau syml ond ysblennydd hon sy'n plesio bron pawb ac sy'n wych ar gyfer eich gweini i’ch gwesteion.
Gallech amrywio'r bisgedi, ffrwythau sych neu gnau yn dibynnu ar yr hyn sydd gennych yn y cwpwrdd.
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Rhowch y cnau Ffrengig ar glawr pobi a’u rhostio mewn ffwrn boeth am 3 - 4 munud, ac yna eu rhoi i’r ochr.
Torrwch y bisgedi yn ddarnau 10mm a’u rhoi i’r naill ochr.
Toddwch y menyn a’r siocled gyda’i gilydd yn ofalus.
Ychwanegwch y llaeth cyddwysedig, gan ei droi nes ei fod wedi’i gyfuno.
Ychwanegwch y darnau bisgedi, cnau Ffrengig a llus i mewn.
Ffurfiwch y cymysgedd yn siâp selsig 30cm / 12” ar y papur pobi.
Rholiwch y papur pobi’n gadarn o amgylch y darn siâp selsig, gan wasgu i gael gwared ag unrhyw aer.
Oerwch y gymysgedd am 3-4 awr.
I weini, dad-lapiwch ac yna ei sleisio’n dafelli 10mm / chwarter modfedd.
Dylid storio’r darnau mewn tun nes bydd eu hangen arnoch.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.