Skip page header and navigation

Torth banana menyn pysgnau

Torth banana menyn pysgnau

Mae gwneud Bara Banana yn ffordd boblogaidd o ddefnyddio bananas dros ben, ond os oes gennych chi hefyd hanner jar o fenyn pysgnau yn y cwpwrdd gallwch chi fynd â'r pryd clasurol hwn i'r lefel nesaf!

Os nad ydych chi mewn hwyliau i bobi, gallwch chi hefyd rewi bananas ac maen nhw'n berffaith i’w rhoi mewn smwddi neu eu cymysgu â rhywfaint o goco i wneud hufen iâ iach!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Darnau siâp ciwb o dorth menyn pysgnau a banana gyda sleisys o fanana wedi’u pobi ar eu pennau

Cynhwysion

3 banana goraeddfed
150g o siwgr mân euraidd
225g o flawd codi
1 wy buarth mawr
3 llwy fwrdd o fenyn pysgnau crensiog
2 llwy de o fanila
100ml o olew blodau’r haul

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Mewn dysgl gymysgu fawr, stwnsiwch y bananas gyda fforc.

  2. Ychwanegwch y siwgr a’i gyfuno â llwy bren.

  3. Ychwanegwch y menyn pysgnau, yr wy, y fanila a’r olew, a’i gymysgu’n dda.

  4. Hidlwch y blawd i mewn ac yna ei gyfuno â chymysgydd llaw trydan, neu lwy bren.

  5. Trowch i mewn i dun torth 1 pwys wedi’i leinio, a’i bobi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (ffan 170°C / 150°C) am 45-50 munud a gwirio ei fod wedi coginio gyda sgiwer.

  6. Gadewch i oeri ar weiren, gan ei droi o’r tun ar ôl ychydig funudau.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Lle oer, sych am sawl diwrnod
Ble i’w storio
Lle oer, sych
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.