Cacen datws mewn tun myffin
Cacen datws mewn tun myffin
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 200°C.
Cyfunwch y tatws stwnsh, yr wy, y caws wedi’i gratio a chennin syfi yn dda ac ychwanegu blas gyda halen a phupur.
Irwch dun myffin safonol gan ddefnyddio chwistrell olew olewydd.
Siapiwch y gymysgedd yn gacen datws a’i rolio mewn briwsion bara.
Rhowch y cacennau datws yn y tun myffin a chwistrellwch y top gyda chwistrell olew olewydd.
Coginiwch yn y ffwrn am 16-20 munud neu tan eu bod yn euraidd.
Gweinwch gyda hufen sur a chennin syfi.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.