Pwmpen sbeislyd, briwgig a thatws
Pwmpen sbeislyd, briwgig a thatws
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
I wneud cymysgedd Libanus 7 sbeis, cymysgwch 1 llwy de o bob un o’r pupur du, ffenigrig, pupur Jamaica, ewin, nytmeg, powdr sinamon a phowdr sinsir.
Toddwch y menyn mewn padell fawr ar wres canolig.
Torrwch y winwnsyn a’r bwmpen a’u hychwanegu at y sosban, a chwyswch y llysiau gan fod yn ofalus i beidio â gadael iddynt frownio.
Browniwch y briwgig dros wres uchel mewn padell ffrio ar wahân, gan dorri’r cig â fforc. Ychwanegwch y cig i’r llysiau meddal a’u cymysgu’n dda.
Ychwanegwch y cymysgedd sbeis, ei gymysgu’n dda a’i adael i goginio am ychydig funudau. Ychwanegwch groen y lemwn a’u cymysgu eto ac yna ychwanegu digon o ddŵr i’w orchuddio, halen a phupur i ychwanegu blas, yna mudferwi’r gymysgedd am 30-40 munud.
Pum munud cyn diwedd y coginio ychwanegwch y sudd lemwn a’r iogwrt naturiol i’w wneud yn ffres neis, yna ei weini gyda thatws stwnsh ar gyfer naws trawsddiwylliannol.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.