Pitsa cennin a thatws dros ben
Pitsa cennin a thatws dros ben
Cynhwysion
Awgrym topin
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Hidlwch y blawd a’r powdr pobi i ddysgl fawr ac ychwanegu’r tatws a’r perlysiau, gan eu troi i gyfuno cyn ychwanegu’r llaeth i’r cymysgedd sych i ffurfio toes meddal. Trowch ar arwyneb â blawd ysgafn a thylino’n ysgafn i ffurfio pelen o does llyfn.
Cynheswch y ffwrn i 225°C/Marc Nwy 7. Rhowch y toes ar glawr pobi wedi’i iro, gan wasgu’r cymysgedd yn gyfartal i greu gwaelod crwn, ychydig yn fwy trwchus na darn £1. Rhowch y toes yn y popty a’i bobi am 10 munud cyn tynnu’r gwaelod pitsa a lleihau tymheredd y ffwrn i 200°C/400°F/Marc Nwy 6.
Taenwch y piwrî tomato dros y gwaelod, a rhoi’r genhinen wedi’i sleisio, y tatws wedi’u berwi a’r caws wedi’i gratio ar ei ben.
Pobwch y pitsa yn y ffwrn am 8-10 munud arall, nes bydd y caws wedi toddi a’r gwaelod yn grimp.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.