Bolognese corbys
Bolognese corbys
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Torrwch eich winwnsyn, moronen a seleri yn fân a chynhesu’r olew mewn sosban fawr ac yna ychwanegu’r llysiau wedi’u torri a’r garlleg. Coginiwch yn ysgafn am 15-20 munud tan fod popeth wedi meddalu. Ychwanegwch y corbys, y ddau dun o domatos wedi’u torri, y piwrî tomato, y perlysiau a’r stoc a’i fudferwi, yna ei goginio am 40-50 munud tan fod y corbys yn frau ac yn sawrus ac yna ychwanegu ychydig o ddŵr i mewn os oes angen ac ychwanegu blas.
Cadwch ef ar wres isel tra byddwch yn coginio’r sbageti, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r pecyn ac yna gweini’r Bolognese gyda sbageti a digon o gaws.
Gellir oeri saws a’i storio yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod neu yn y rhewgell am hyd at 3 mis. Pa rydych am ei fwyta ar ôl ei rewi, mae’n bwysig ei ddadmer dros nos ar dymheredd ystafell a’i ailgynhesu’n ysgafn.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.