Lasagne corbys coch gydag wyneb hadau pwmpen arswydus
Lasagne corbys coch gydag wyneb hadau pwmpen arswydus
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 200°C confensiynol / ffan 180°C.
Berwch y corbys coch am 20 munud mewn dŵr berwedig, yna eu draenio. Os ydych yn defnyddio tun o gorbys yna nid oes angen y cam hwn arnoch.
Ychwanegwch y corbys wedi’u coginio i’r bolognese sydd dros ben a’i gynhesu’n ysgafn mewn padell fach tan ei fod wedi’i gymysgu’n drylwyr. Tynnwch y badell oddi ar y gwres a’i roi i un ochr ac yna ychwanegu’r tomatos bach wedi’u haneru i’r saws.
I wneud y saws gwyn - rhowch sosban ganolig ar wres isel ac ychwanegu’r menyn a’i adael i doddi. Ychwanegwch y blawd a’i droi tan ei fod wedi’i gyfuno’n drylwyr a’i goginio drwodd am ryw funud. Ychwanegwch y llaeth yn araf, gan gymysgu drwy’r amser fel nad yw’n ffurfio lympiau. Os yw’n dalpiog, daliwch ati i gymysgu gyda’r chwisg a’i goginio’n ysgafn tan fod y llaeth wedi cynhesu drwodd a’r saws wedi tewychu ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a’i roi i un ochr.
Gosodwch y lasagne mewn dysgl sgwâr / hirsgwar sy’n addas ar gyfer y ffwrn. Dechreuwch trwy wasgaru haenen o stwnsh pwmpen, yna ei ddilyn gyda haen o gorbys a bolognese ac yna haen o dalennau lasagne. Nesaf, ychwanegwch ychydig o saws gwyn a gwasgaru 1/3 o gaws ar ei ben.
Ailadroddwch y camau uchod tan fod y ddysgl yn llawn a’r holl gynhwysion wedi’u defnyddio (2 - 3 haen).
Create a spooky face on top using pumpkin seeds. Tip - why not try to make a ghost or skeleton or a vampire with the seeds? Finish with a scattering of cheese. Place into a preheated oven for 35-40 minutes until golden and bubbling on top, and cooked right through Crëwch wyneb arswydus ar ei ben gan ddefnyddio hadau pwmpen. Awgrym - beth am geisio gwneud ysbryd neu sgerbwd neu sugnwr gwaed gyda’r hadau? I orffen, gwasgarwch ychydig o gaws arnynt a’i roi yn y ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 35-40 munud tan ei fod yn euraidd ac yn byrlymu, ac wedi coginio drwyddo.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.