Risoto pwmpen, caws glas ac afal
Risoto pwmpen, caws glas ac afal
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch sosban drom dros wres canolig ac ychwanegu sblash o olew, y winwnsyn, y garlleg, y dail teim, y saets wedi’i dorri’n fân, halen a phupur a gadael iddynt chwysu am 5 munud.
Yn y cyfamser, pliciwch a deisio’r bwmpen yn ddarnau bach, a deisio’r afal.
Pan fydd y winwns wedi meddalu, ychwanegwch y bwmpen wedi’i deisio ac ychydig mwy o flas, yna gadael y cwbl i chwysu tan eu bod yn dechrau meddalu.
Trowch y gwres i fyny ac ychwanegu’r reis risoto, gan ffrio’n ysgafn tan fod y grawn yn popian ychydig cyn ychwanegu’r gwin.
Unwaith y bydd y gwin wedi’i amsugno, ychwanegwch y stoc fesul tipyn, gan ei goginio’n ysgafn tan fod pob mesur wedi’i amsugno.
Ar ôl 15-20 munud, dylai’r holl hylif gael ei amsugno a bydd y reis yn frau. Tynnwch y risoto oddi ar y gwres a churo’r menyn a’r caws Parma wedi’i gratio i mewn cyn plygu’r afal wedi’i ddeisio a’r caws glas i mewn i’r gymysgedd.
Ychwanegwch flas gyda halen, pupur a diferyn o sudd lemwn.
Gweinwch gyda dail saets wedi’i ffrio mewn menyn a salad ar yr ochr.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.