Pwdinau Efrog heb glwten
Pwdinau Efrog heb glwten
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 220°C/200°C (ffan).
Cydiwch mewn tun myffins/teisennau bach ac ychwanegu 1 llwy de o olew i bob un o’r tyllau yn y tun myffins.
Rhowch y tun yn y ffwrn am 10-15 munud nes bod yr olew yn chwilboeth!
Tra bod yr olew yn cynhesu, craciwch 6 wy i mewn i ddysgl gymysgu fawr. Ac yna ychwanegu’r blawd corn a’r rhosmari sych a’u curo gyda’i gilydd tan fod y gymysgedd yn llyfn.
Unwaith y bydd wedi’i gyfuno’n drylwyr, ychwanegwch y llaeth yn raddol, 100ml ar y tro, gan guro am 15 eiliad rhwng bob arllwysiad o laeth.
Arllwyswch y cytew pwdin Efrog i jwg fel ei bod yn haws ei arllwys i mewn i’r tun myffins. Nesaf, mae angen i chi fod yn gyflym! Tynnwch y tun myffins o’r ffwrn ac yna llenwi bob twll gyda’r cymysgedd ar unwaith nes bod pob un ychydig yn llai na ¾ llawn. Dylent hisian ychydig. Byddwch yn gyflym iawn yma a’u cael yn ôl yn y ffwrn cyn gynted â phosibl!
Rhowch y tun yn ôl yn y ffwrn a choginio’r gymysgedd am tua 15-20 munud nes eu bod yn euraidd ac wedi codi. Gwnewch yn siŵr nad ydych byth yn agor drws y ffwrn tra maen nhw’n pobi gan y bydd hyn yn eu difetha! Tynnwch o’r ffwrn ar ôl iddyn nhw goginio a’u gweini gyda chinio rhost blasus a digonedd o grefi heb glwten.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.