Browni hadau pwmpen
Browni hadau pwmpen
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Tostiwch yr hadau pwmpen ar glawr pobi am 3-4 munud ar dymheredd o 200˚C/marc nwy 6, a’u rhoi i un ochr i oeri.
Rhowch y menyn a hanner y siocled tywyll mewn dysgl a’u toddi gyda’i gilydd gan ddefnyddio bain-marie neu ficrodon.
Cymysgwch yr wy a’r fanila gyda’i gilydd, yna ychwanegu’r siwgr ac yna ei ychwanegu at y siocled a’r menyn wedi toddi.
Hidlwch y blawd a’i blygu’n ysgafn tan ei fod wedi’i gyfuno.
Ychwanegwch weddill y darnau siocled a chymysgu’r gymysgedd yn dda.
Arllwyswch i mewn i glawr pobi sgwâr 20cm wedi’i leinio a rhoi’r hadau pwmpen wedi’u tostio ar ben y gymysgedd.
Trowch wres y ffwrn lawr i 175˚C/marc nwy 3 a phobi’r brownis am 25 munud. Os yw’r canol yn ysgwyd o hyd, rhowch y brownis yn ôl yn y ffwrn tan ei fod wedi setio.
Tynnwch y brownis o’r ffwrn a gadael iddynt oeri’n llwyr cyn tynnu’r brownis oddi ar y clawr a’u torri’n sgwariau.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.