Cawl pwmpen sbeislyd
Cawl pwmpen sbeislyd
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 190ºC.
Tynnwch y cnawd pwmpen gyda llwy, a phlicio’r daten felys a thorri’r bwmpen a’r daten felys yn giwbiau 1 modfedd.
Stoc blasus o grwyn a phennau llysiau: Rhowch nhw mewn cynhwysydd wedi’i selio a’u rhewi. I wneud y stoc, rhowch y darnau llysiau i fudferwi mewn dŵr am 20 munud pan fo’i angen arnoch. Gwych i’w roi mewn cawl, lobsgóws a risoto.
Sleisiwch y pupur coch a rhoi’r holl lysiau ar glawr rhostio, gyda diferyn o olew. Rhowch y llysiau yn y ffwrn i rostio am 30-40 munud, tan eu bod yn feddal.
Gadewch i’r holl lysiau oeri ychydig. Unwaith y bydd yn ddigon oer i’w drin, ychwanegwch y bwmpen, taten felys a phupurau i gymysgydd gyda’r dŵr, y llaeth a’r tsili wedi’u deisio, a’u cymysgu tan eu bod yn llyfn.
Arllwyswch y cynnwys i mewn i sosban a’i gynhesu tan ei fod yn chwilboeth, gan ychwanegu mwy o ddŵr os ydych yn hoffi cawl ychydig yn deneuach.
Ychwanegwch flas gyda halen a phupur.
Awgrym gan y cogydd: I roi blas melysach i’r cawl, rhostiwch y bwmpen a’r daten felys tan eu bod yn dywyll ac wedi’u carameleiddio. Mae’n bwysig gadael i’r llysiau oeri cyn eu rhoi yn y cymysgydd gan y gallai pwysau’r stêm greu llanast yn y gegin!
Defnydd: Defnyddiwch lysiau heb eu coginio a allai fod gennych dros ben o ddysgl arall.
Amrywiadau: I wneud hwn yn ddysgl fwy cytbwys, gallwch ei weini gyda briwsion crasu garlleg neu ychydig o dafelli o fara a menyn. Gallwch hefyd amrywio’r cynhwysion a drwy ddefnyddio gwrd cnau menyn yn lle, neu fel ychwanegiad at y bwmpen!
Blas ychwanegol: Gall ychwanegu eich cymysgedd eich hun o berlysiau a sbeisys wella’r pryd hwn yn wirioneddol, fel coriander, cwmin, oregano neu hadau ffenigl.
Opsiynau figan: Er mwyn addasu’r pryd hwn ar gyfer y rhai sy’n figan, defnyddiwch stoc llysiau, llaeth amgen neu laeth cnau coco yn lle’r llaeth, a bydd pob un ohonynt yn creu blasau gwahanol.
Cyngor ar alergeddau: Mae’r pryd amlbwrpas hwn yn hawdd ei addasu i osgoi alergenau a bod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddietau.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.