Cacen Nadolig funud olaf
Cacen Nadolig funud olaf
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Mewn padell fawr cymysgwch y ffrwythau sych, bricyll, datys, llugaeron a cheirios. Ychwanegwch y te wedi’i oeri, y wisgi neu frandi, y sudd oren, croen a’r triog a’i ferwi, gan ei droi. Mudferwch yn ysgafn am 10 munud ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a gadael i’r gymysgedd i oeri a’i drosglwyddo i ddysgl a’i oeri dros nos neu am gymaint ag y gallwch.
Cynheswch y ffwrn i 140ºC / 275ºF / Marc Nwy 2. Irwch dun cacen grwn 20cm yn ysgafn a’i leinio â phapur pobi.
Rhowch holl gynhwysion y gacen sydd dros ben, ac eithrio’r cnau, mewn dysgl gymysgu fawr. Cymysgwch yn drylwyr, ac yna plygu’r ffrwythau a’r cnau wedi’u socian â the i mewn.
Rhowch y cymysgedd yn y tun parod a lefelu’r top, gan wneud ychydig o bant tuag at y canol. Lapiwch ochrau’r gacen mewn trwch dwbl o bapur brown ac yna gwirio’r gacen ar ôl 3 awr, a’i gorchuddio â phapur pobi os yw’r wyneb yn mynd yn rhy frown. Pobwch am 30 munud arall -1 awr, neu tan fod sgiwer metel wedi’i roi yn y canol yn dod allan yn lân.
Oerwch y gacen yn y tun am 15 munud yna ei thynnu allan a gadael iddi oeri’n llwyr ar weiren oeri.
Pan yn barod i addurno’r gacen, rhowch siwgr eisin ar arwyneb gwaith mawr a rholio’r marsipán i siâp cylch ychydig yn fwy na’r gacen. Cynheswch y jam bricyll mewn padell fach a’i frwsio dros y gacen. Rhowch y marsipán dros y gacen – a’i rwbio â’ch dwylo i greu arwyneb llyfn gwastad. Os bydd amser, gorchuddiwch y gacen gyda lliain sychu llestri glân ac yna ei gadael mewn lle oer am o leiaf un diwrnod.
Rholiwch 150g o’r eisin ffondant ar arwyneb gwastad gydag ychydig o siwgr eisin a defnyddiwch eich hoff dorwyr cwci Nadolig i dorri rhai siapiau Nadoligaidd e.e. plu eira, sêr neu ddail celyn ac ati a’u trosglwyddo ar glawr pobi wedi’i leinio â phapur pobi a’i adael i setio, heb ei orchuddio, mewn lle oer.
Rhowch y gacen ar fwrdd cacennau a brwsio’r gacen wedi’i gorchuddio â marsipán gydag ychydig o ddŵr. Rholiwch yr eisin sy’n weddill i gylch 33cm. Codwch y gacen a llyfnhau’r eisin i lawr yr ochrau a thorri’r eisin dros ben o amgylch gwaelod y gacen ac yn rhoi siwgr eisin ar gledr eich llaw gan eu rhwbio’n ysgafn dros yr eisin i gael gwared ag unrhyw fannau anwastad.
Defnyddiwch y siapiau Nadoligaidd a baratowyd gennych yn gynharach i addurno’r gacen a’i gorffen gyda rhuban.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.