Bruschetta cymysg Eidalaidd
Bruschetta cymysg Eidalaidd
Cadwch roliau bara yn y rhewgell, maen nhw'n dadmer mewn 30 munud ac maen nhw'r maint perffaith i wneud bruschetta.
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 180°C (350°F) marc 4. Torrwch y rholiau yn dafelli 3mm.
Brwsiwch y tafelli gydag ychydig o olew olewydd, a’u rhoi ar glawr pobi mewn un haen a gwasgaru ychydig o berlysiau sych dros y rholiau.
Coginiwch am 10 munud a thra eu bod yn dal yn boeth, eu rhwbio gyda’r tafelli o arlleg.
Nawr gorffennwch y bruschetta gyda’r topin o’ch dewis yn dibynnu ar gynnwys eich oergell:
Opsiynau
Brocoli a mintys – Mewn prosesydd bwyd ychwanegwch 150g o frocoli wedi’i goginio a’i flendio am ychydig eiliadau ac yna ychwanegu 25g o gnau pinwydd, 55g o gaws Parma wedi’i gratio a 3 llwy fwrdd o olew olewydd. Yna, blendio’r cymysgedd am 10 eiliad arall ac yna cymysgu 2 lwy fwrdd o fintys wedi’u torri i mewn i’r gymysgedd ac ychwanegu blas gyda phupur du ac ychydig o sudd lemwn. Rhannwch y gymysgedd rhwng pob bruschetta.
Caws tawdd melys – Defnyddiwch unrhyw gaws dros ben sydd gennych yn eich oergell a’i gratio neu ei friwsioni a’i rannu rhwng pob bruschetta ac ychwanegu llwy de o saws llugaeron, ei roi o dan gril poeth am 2-3 munud neu tan ei fod yn dechrau toddi.
Twrci, Brie a llugaeron - Torrwch 150g o Brie yn dafelli bach, a’i rannu rhwng y bruschetta a rhoi 100g o dwrci wedi’i goginio wedi’i sleisio ac ychydig o saws llugaeron arnynt.
Cig eidion a winwnsyn wedi’i garameleiddio - Cynheswch ychydig o olew mewn padell â gwaelod trwchus, ac ychwanegu 300g o winwnsyn coch wedi’u sleisio eu gorchuddio a’u coginio dros wres isel tan eu bod yn feddal. Ychwanegwch ½ llwy fwrdd o siwgr brown a ½ llwy fwrdd o finegr, eu coginio, a’u troi tan eu bod wedi carameleiddio. Sleisiwch gig eidion wedi’i goginio’n denau a thaenu mwstard ar y Bruschetta, a rhowch y cig eidion, y winwns wedi’u carameleiddio a rhywfaint o bersli wedi’i dorri ar ei ben.
Tomato ac olewydd – Torrwch 175g o domatos yn ddarnau bach a thorri tomatos bach yn chwarteri ac yna ychwanegu llond llaw o olewydd du, ychydig o gaprau ac ychwanegwch 2 lwy fwrdd o olew olewydd pur a dail basil wedi’u rhwygo. Rhannwch y gymysgedd rhwng pob bruschetta ac ychwanegu blas gyda phupur du.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.