Gratin twrci tomato
Gratin twrci tomato
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Cymysgwch y pasata tomato neu’r tomatos tun gyda’r hufen dwbl neu crème fraîche.
Mewn dysgl bas llydan, gosodwch dafelli trwchus o dwrci dros ben.
Ffriwch y pupur a’r madarch a’u rhoi mewn haenau ar ben y twrci.
Arllwyswch y pasata hufennog drosto a rhoi briwsion bara wedi’u cymysgu â chaws Parma wedi’i gratio ac ychydig o olew olewydd ar ei ben.
Pobwch mewn ffwrn ar wres canolig tan fod y twrci yn chwilboeth a’r briwsion bara yn grimp ac yn frown.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.