Creision llysiau Mecsicanaidd
Creision llysiau Mecsicanaidd
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 220°C/200°C Ffan/Nwy 7.
Torrwch ben a gwaelod y betys a’r foronen i ffwrdd ac yna glanhau’r crwyn trwy eu sgwrio mewn dŵr a phlicio’r tatws melys.
Tip: Gwisgwch fenig rwber wrth baratoi’r betys i atal y lliw rhag staenio’ch dwylo. Gallech hefyd ddefnyddio unrhyw ddipiau sydd gennych dros ben neu geisio gwneud eich salsa eich hun o domatos soeglyd, winwnsyn wedi’i dorri a rhywfaint o bowdr tsili neu tsilis ffres wedi’u torri. Gallwch hefyd ddefnyddio’r rysáit i wneud creision cartref.Sleisiwch y llysiau’n denau iawn; pliciwr sy’n troi neu fandolin sydd orau ar gyfer hyn ond fe allech chi hefyd ddefnyddio cyllell os ydych chi’n ofalus, yna eu gwasgu’n ofalus rhwng papur cegin i amsugno unrhyw leithder gormodol.
Rhowch bapur pobi ar dri chlawr pobi a brwsio’r papur gydag olew. Gosodwch y llysiau ar bob clawr pobi mewn un haen, gan gadw’r betys ar glawr ar wahân i’w atal rhag staenio’r llysiau eraill. Brwsiwch y llysiau gyda gweddill yr olew, ac ychwanegu blas gyda phupur du yna eu rhostio am 25 munud, gan eu troi hanner ffordd drwodd ac yna eu trosglwyddo i glawr â phapur cegin a’u gadael i oeri’n llwyr.
I’w gosod, trefnwch y creision llysiau ar blât a’u gweini gyda dysglau o salsa, gwacamole a hufen sur.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.