Cyw iâr (neu dwrci) gaeafol wedi’i frwysio
Cyw iâr (neu dwrci) gaeafol wedi’i frwysio
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Rhowch y gwin, bag sbeis gwin cynnes, a siwgr mewn padell tan ei fod yn berwi ac yn byrlymu tan fod y cymysgedd wedi lleihau, tua 10 -15 munud. Ychwanegwch y satswma gyda’r clof.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Ychwanegwch flas ar groen y cyw iâr gyda halen a phupur, ac yna cynhesu’r olew a ffrio’r darnau cyw iâr mewn padell fawr tan eu bod yn euraidd ac yna ychwanegu’r winwns, garlleg a’i goginio am 5 munud arall.
Ychwanegwch y blawd a’i goginio, gan ei droi, am 1 munud cyn ychwanegu’r gwin wedi’i leihau a’r stoc a’i goginio tan fod y cymysgedd yn berwi, yna ei orchuddio a’i goginio ar 200°C (400°F) marc 6 am tua 1 awr, dylai’r saws fod fel grefi.
Dadorchuddiwch y caserol a throi’r llugaeron i mewn a’i goginio am 30 munud arall. Tynnwch y satswmas a’u rhoi yn y bin compost ac yna gweini’r caserol ar unwaith.
I’w rewi: Gwnewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3 ac yna ei oeri a’i roi mewn cynhwysydd sy’n addas ar gyfer y rhewgell, ei labelu a’i rewi am hyd at 3 mis.
I’w ddefnyddio: Dadmer dros nos, ei roi mewn dysgl gaserol gwrthfflam, a’i goginio’n araf tan ei fod yn berwi. Ychwanegwch y llugaeron a lleihau’r gwres tan ei fod yn mudferwi’n ysgafn a’i goginio am 30 munud neu tan fydd wedi cynhesu.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.