Tajîn cyw iâr a lemon wedi’i goginio mewn crochan araf
Tajîn cyw iâr a lemon wedi’i goginio mewn crochan araf
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig! Dylid ei ddadmer yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Gorchuddiwch y cyw iâr yn ysgafn mewn blawd a chynhesu’r olew mewn padell ffrio, a ffrio’r cyw iâr a’r garlleg yn y badell tan eu bod ychydig yn frown ar bob ochr ond heb eu coginio drwyddo.
Sleisiwch eich lemon a’ch winwns a rhoi’r holl gynhwysion yn y crochan araf.
Toddwch eich ciwb stoc mewn 600ml o ddŵr cynnes a’i arllwys ar ei ben.
Coginiwch yn isel am 5 awr.
Gweinwch gyda choriander ffres a chwscws.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.