Jam mefus
Jam mefus
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Tynnwch y coesynnau a thorrwch y mefus.
Rhowch y mefus mewn padell neu bot gyda thua ½ cwpan o ddŵr. Os yw’r aeron wedi’u rhewi, nid oes angen i chi ychwanegu unrhyw ddŵr.
Mudferwch a’u coginio am tua 30 munud tan fod y ffrwyth yn feddal.
Stwnsiwch gyda stwnsiwr i’r gwead dymunol. Mae’n well gan rai pobl jam gyda darnau o fefus, tra bod yn well gan eraill ansawdd fwy llyfn.
Ychwanegwch siwgr a sudd lemwn, yna troi’r gwres i fyny a berwi’r jam.
Profwch y jam ar ôl 10 munud a pharhau i brofi nes cyrraedd y set a ddymunir.
AWGRYM: I brofi i weld a yw eich jam wedi setio, rhowch blât neu soser yn y rhewgell am 5 munud neu tan ei fod yn oer a rhoi ychydig o’ch jam poeth ar y plât oer ac yna ei roi yn ôl yn y rhewgell am ychydig funudau. Tynnwch y jam allan o’r rhewgell a’i gyffwrdd â blaen eich bysedd. Os yw wedi ffurfio croen sy’n crychu wrth i chi ei wthio gyda blaenau eich bysedd, yna mae’n barod. Os yw’n dal yn rhedeg heb unrhyw wrthwynebiad, daliwch ati i’w ferwi ac ailadrodd y prawf ymhen 5 munud.Rhowch y jam mewn jariau poeth, wedi’u di-heintio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.