Arancini
Arancini
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Yn syml, dylid blendio’r tafelli ar ddiwedd torth wen gyda dail dau sbrigyn rhosmari yn friwsion mân. Mae’n gwneud llwyth. (Gellir cadw coesynnau’r rhosmari i ychwanegu blas at gawl neu sawsiau).
Rhowch y briwsion bara â pherlysiau mewn dysgl fawr. Yn wir, nid oes angen llawer, felly cadwch rai mewn cynhwysydd aerglos am ddiwrnod arall neu i wneud pangritata.
Cymerwch ychydig o’r risoto oer a’i ffurfio’n rhannau bach maint pêl, tan fod yr holl risoto wedi cael ei ddefnyddio.
Rhowch y blawd mewn dysgl ar wahân ac ychwanegu blas gyda halen a phupur a’i gymysgu drwodd.
Torrwch yr wy a’i roi mewn dysgl arall a’i guro.
Cymerwch bob pêl o risoto yn ei dro a’i dipio i mewn i’r blawd wedi’i sesno gan ysgwyd y blawd sydd dros ben i ffwrdd.
Yna, dipiwch y bêl o risoto â blawd hon i mewn i’r wyau i’w gorchuddio.
Yn olaf, rhowch y bêl o risoto yn y bowlen gyda’r briwsion bara â pherlysiau a’i orchuddio’n dda.
Rhowch yr olew mewn padell ddofn, a’i gynhesu i 180°C (neu ddefnyddio ffrïwr saim dwfn) a ffrio bob pêl o risoto wedi’i gorchuddio yn y briwsion bara â pherlysiau nes eu bod yn euraidd.
Tynnwch o’r olew poeth yn ofalus ar bapur cegin ar hambwrdd i ddraenio olew sy’n weddill.
Ailadroddwch y camau hyn ar gyfer gweddill y peli o risoto a’i bwyta tra byddan nhw’n hyfryd ac yn gynnes.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.