Macaroni sbrowts a chig moch
Macaroni sbrowts a chig moch
Cynhwysion
Ar gyfer y Saws
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch eich ffwrn i 180c (ffan 160c).
Coginiwch y pasta yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn yna ei ddraenio a’i adael i stemio a’i roi i un ochr.
Os ydych chi’n defnyddio cig moch heb ei goginio (yn hytrach na gamwn) ychwanegwch ychydig o olew i badell ffrio ar wres canolig a’i ffrio tan ei fod yn grimp. Os hoffech chi, gallwch chi goginio’r sbrowts yn grimp yn y badell am funud neu ddau yna ei roi i un ochr tra byddwch yn gwneud y saws caws.
Ychwanegwch y menyn i sosban a’i doddi ar wres canolig cyn ychwanegu’r blawd a’r llaeth a’u curo’n gyflym ac yn barhaus tan fod gennych saws llyfn.
Ychwanegwch y mwstard a’r caws, a throi’r gwres i fyny ychydig tan ei fod yn dechrau tewychu ac yna ei dynnu oddi ar y gwres.
Ychwanegwch y pasta wedi’i goginio at ddysgl fawr sy’n addas ar gyfer y ffwrn, a rhoi’r sbrowts a’r bacwn (neu gamwn) mewn haenau.
Arllwyswch y saws dros y gymysgedd a’i droi’n ysgafn i orchuddio popeth yn dda. Pobwch yn y ffwrn am tua 15 - 20 munud, neu tan fod y saws yn byrlymu a’r top wedi brownio.
Gweinwch ar unwaith.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.