Nachos Hagis
Nachos Hagis
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu ei roi yn y microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Rhowch hanner y tortila mewn dysgl fas a rhoi 1⁄3 o’r hagis a’r caws ar ei ben.
Rhowch o dan gril canolig am tua 5 munud, tan fod y caws yn ffrwtian.
Trefnwch weddill y tortila ar ei ben, gan wasgaru gweddill yr hagis a’r caws ar ben y tortila.
Rhowch y cynhwysion yn ôl o dan y gril am 5 munud arall, neu tan fod y caws yn toddi.
Rhowch lwyaid o salsa, hufen sur, gwacamole a jalapeños ar ben y nachos, os ydych chi’n ei ddefnyddio.
I wneud eich gwacamole eich hun (ar gyfer 2): Stwnsiwch afocado mewn dysgl, yna ychwanegu 1 tomato wedi’i dorri’n fân, hanner winwnsyn coch wedi’i dorri’n fân, 1 tsili wedi’i dorri’n fân (tynnwch yr hadau os ydych chi eisiau gwacamole ysgafn), sudd o hanner a leim, llond llaw o goriander wedi’i dorri’n fân a’u cymysgu gyda’i gilydd cyn ychwanegu blas gyda halen a phupur a’i addurno gyda darn o leim ac ychydig o goriander ychwanegol.
I wneud eich salsa eich hun (ar gyfer 2): Cymysgwch 3 tomatos wedi’u deisio, hanner winwnsyn coch wedi’i dorri’n fân, 1 tsili wedi’i dorri’n fân (tynnwch yr hadau os ydych chi eisiau salsa ysgafn) a llond llaw o goriander wedi’i dorri’n fân. Gwasgwch y sudd o hanner leim, halen a phupur a’i addurno gyda choriander ychwanegol. Os oes gennych chi brosesydd bwyd, rhowch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd tan i chi gael y trwch o’ch dewis.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.