Omled Sbaenaidd gyda phwdin du
Omled Sbaenaidd gyda phwdin du
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch badell dros wres canolig ac ychwanegu’r chorizo a’i adael i ffrio am funud neu ddwy, tan fod yr olew yn dechrau rhyddhau.
Ychwanegwch y winwnsyn a’r pupur a’u coginio tan eu bod yn dechrau meddalu.
Ychwanegwch y pwdin du, y tatws a’r sbigoglys a’u ffrio am ychydig funudau eto.
Yn y cyfamser, curwch yr wyau, y llaeth, yr halen a’r pupur gyda’i gilydd mewn dysgl fawr.
Ychwanegwch yr wyau i’r sosban, gan sicrhau eich bod chi’n cael haen gyfartal a’i adael i goginio ar wres isel/canolig am tua 5 munud, neu tan fod yr wy ar y top yn dechrau coginio.
Tra bod ychydig o siglad ar ôl yn yr wy, gwasgarwch y caws dros ben y cymysgedd a throsglwyddo’r sosban i gril poeth tan ei fod wedi setio (gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yr handlen yn sticio allan fel nad yw’n toddi neu’n llosgi’ch llaw!)
Tynnwch yr omled wedi’i goginio o’r badell i blât mawr, ei sleisio a’u weini gyda salad.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.