Tajîn Twrci
Tajîn Twrci

Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch yr olew mewn padell fawr ac ychwanegu’r winwnsyn wedi’i dorri, y sinsir ffres wedi’i dorri a’r garlleg. Coginiwch yn ysgafn am 5 munud.
Ychwanegwch y cig twrci a’i goginio’n ysgafn am 10 munud.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Ychwanegwch y pupur coch, y courgette, y tomatos tun, y ffacbys, y lemwn wedi’i gadw*, y ras el hanout, y stoc cyw iâr a’r coriander.
Mudferwch am 30 - 45 munud ac yna ychwanegu blas a pharhau i fudferwi am 30 munud arall fel bod y blasau’n trwytho.
*Tynnwch halen dros ben o’r lemwn ac, wrth ei ddefnyddio am y tro cyntaf, ychwanegwch mewn chwarteri i’ch dysgl, gan flasu tan i chi gael y blas dymunol.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.