Teisen oergell siocled dros ben
Teisen oergell siocled dros ben
Gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw fath arall o fisged blaen, a gallwch ddefnyddio unrhyw gymysgedd o gnau neu ffrwythau sych a allai fod gennych yn eich cypyrddau cegin.
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Defnyddiwch bapur pobi i leinio dysgl neu dun hirsgwar, gan adael mwy o bapur yn gorwedd dros yr ochr ac yna ei roi i un ochr.
Nesaf, rhowch y bisgedi mewn bag a’u malu â rholbren ac yna eu rhoi i’r ochr.
Rhowch bowlen gwrth-wres dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi ac yna ychwanegu’r siocled wedi torri, y surop melyn a’r menyn. Trowch yn ofalus nes eu bod wedi toddi gyda’i gilydd ac yna tynnu’r ddysgl oddi ar y gwres.
Ychwanegwch y bisgedi wedi’u torri, y rhesins a’r cnau wedi’u torri i mewn i’r gymysgedd a’u cymysgu’n dda i orchuddio popeth yn llwyr.
Trosglwyddwch i’r ddysgl neu dun â phapur, gan ddefnyddio llwy bren i wthio’r cymysgedd i bob cornel.
Gwasgarwch felysion dros y gymysgedd cyn ei roi yn yr oergell i oeri am 2-3 awr.
Gan ddefnyddio ymylon y papur pobi, codwch a’i drosglwyddo i fwrdd a’i dorri’n dafelli, yna ei weini a’i fwynhau.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser a chael pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.