Brownis siocled, oren a mins pei
Brownis siocled, oren a mins pei
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 190°C/170°C ffan.
Toddwch hanner y siocled llaeth a’r siocled tywyll gyda’r menyn mewn dysgl gwrth-wres dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi.
Mewn dysgl ar wahân, curwch yr wyau a’r fanila gyda’i gilydd, yna ychwanegu’r siwgr.
Ychwanegwch y siocled a’r menyn wedi’i doddi i’r cymysgedd wy, yna ychwanegu’r blawd a’i blygu’n ysgafn nes ei fod wedi’i gyfuno.
Torrwch eich mins peis yn fras, gan gadw ychydig o ddarnau ar gyfer addurno. Ychwanegwch y darnau at y cymysgedd brownis, ynghyd â chroen a sudd y clementin, a gweddill y siocled.
Arllwyswch y cymysgedd brownis i mewn i clawr pobi (tua 30cm x 20cm) a rhoi gweddill y darnau mins pei ar ei ben.
Pobwch am 25 munud neu tan fod y canol wedi setio.
Oerwch yn llwyr yn y clawr pobi cyn ei droi allan a’i dorri’n sgwariau.
Rhowch fymryn o siwgr eisin ar eu pen i roi ychydig o naws Nadoligaidd ychwanegol!
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.