Cawl cennin a thatws
Cawl cennin a thatws
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Rhowch y cennin syfi mewn cwpan a’u torri’n ddarnau bach gyda’ch siswrn. Byddant yn cael eu defnyddio fel garnais.
Pliciwch a thorri’r daten yn ddarnau bach.
Tynnwch y top gwyrdd a gwraidd y cennin, taflu’r haen allanol a’u golchi. Torrwch yn ddarnau 1cm.
Golchwch y tafelli o gennin a draenio’n dda yn y colandr.
Pliciwch y winwnsyn a’i dorri’n fân gan ddefnyddio’r dechneg crafanc.
Arllwyswch 750ml o ddŵr berwedig i’r jwg mesur, ac ychwanegu’r ciwb stoc wrth ei falu’n fân a’i droi gyda llwy bren i doddi.
Rhowch yr olew yn y sosban ac ychwanegu’r winwnsyn.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.