Consommé ffrwythau cochion
Consommé ffrwythau cochion
Cynhwysion
I weini
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Ar gyfer y consommé ffrwythau , rhowch y mefus, y mafon, y siwgr, y sudd lemwn a’r dŵr mewn padell â sylfaen drom a’u berwi’n gyflym, yna lleihau’r gwres a’u mudferwi’n ysgafn am 3-4 munud tan fod yr aeron yn rhyddhau llawer o sudd. Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi i un ochr i oeri ychydig, am 5 munud.
Gosodwch gadach mwslin mawr wedi’i wlychu dros ddysgl fawr, gan adael digon dros yr ochrau. Tipiwch yr aeron a’r sudd yn ofalus i’r mwslin a chodi corneli’r mwslin at ei gilydd dros y ddysgl a’i glymu â chortyn, gan adael darn i’w glymu ar fachyn bargodol (neu efallai handlen drws cwpwrdd cegin), gan hongian y bag mwslin dros y ddysgl. Gadewch i ddiferu’n naturiol am tua 1 ½ awr tan fod yr holl consommé wedi mynd drwy’r bag; peidiwch â chael eich temtio i wasgu’r mwslin neu bydd y consommé yn colli ei eglurder. Gorchuddiwch a’i oeri tan rydych ei angen.
I weini, rhannwch yr aeron ffres rhwng dysglau unigol neu blatiau cawl ac arllwyso’r consommé ffrwythau o amgylch y ffrwythau a gwasgaru’r mintys wedi’i dorri’n fân drostynt.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.