Cyri pastai’r bugail ffacbys a chorbys
Cyri pastai’r bugail ffacbys a chorbys
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Golchwch y tatws a’u torri’n chwarteri, yna eu hychwanegu i sosban o ddŵr berw a’u coginio tan eu bod yn feddal.
Ychwanegwch ychydig o olew olewydd i badell ffrio fawr dros wres canolig a choginio’r winwns a’r garlleg tan eu bod yn feddal, yna ychwanegu 2 lwy fwrdd o bowdr cyri a’i gymysgu tan fod y gymysgedd yn dywyll.
Ychwanegwch 200ml o laeth cnau coco ato, a’u cymysgu gyda’i gilydd i greu past cyri trwchus, yna ychwanegu’r tomatos wedi’u torri’n fân, gronynnau llysiau, moron a theim sych. Yna cymysgu’r ffacbys tun wedi’u draenio a’r corbys i mewn i’r gymysgedd.
Ychwanegwch flas gyda halen a phupur du ac yna ychwanegu 100ml o ddŵr, yna ei goginio am 5-7 munud.
Draeniwch y dŵr o’r sosban o datws, yna eu stwnsio tan eu bod yn feddal ac yna ychwanegu gweddill y llaeth cnau coco ynghyd â menyn a halen, a’i gymysgu tan eu bod yn llyfn.
Rhowch y cymysgedd cyri ffacbys mewn dysgl gaserol, ac yna ychwanegu’r tatws stwnsh ar ei ben a’i lyfnhau.
Crëwch grystyn ar ei ben gyda fforc yna ei roi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar 375°F/190°C/marc 5 am 30 munud tan ei fod yn frown euraidd ar ei ben.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.