Cyrri cnau coco twrci a ffacbys
Cyrri cnau coco twrci a ffacbys
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch sosban fawr ac ychwanegu’r olew a’r winwns a’u coginio, gan eu troi tan eu bod wedi brownio tua 10 munud. Ychwanegwch y llysiau eraill a’u coginio ar y gwres tan eu bod yn lliw ysgafn, tua 5 munud.
Ychwanegwch y garlleg, y garam masala, a’r powdr tsili a’u coginio am 1 munud arall.
Arllwyswch y stoc, y llaeth cnau coco, y tomatos wedi’u torri, y ffacbys a’r bricyll i mewn tan eu bod yn berwi, yna troi’r gwres i lawr, eu gorchuddio a’u mudferwi tan fod y llysiau bron wedi coginio, tua 40 munud.
Ychwanegwch y cig twrci wedi’i goginio a’i goginio am 5 munud arall neu tan fod y twrci yn chwilboeth.
Trowch y gwres i ffwrdd, ac ychydig cyn ei weini ychwanegwch yr iogwrt a’r coriander a’i weini gyda reis basmati plaen wedi’i ferwi, siytni mango neu popadom.
I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3 yna ei oeri a’i roi mewn cynhwysydd sy’n addas ar gyfer y rhewgell, ei labelu a’i rewi am hyd at 3 mis. I’w ddefnyddio: Dylid dadmer y cymysgedd dros nos yn yr oergell yna ei roi mewn sosban fawr, ychwanegu’r twrci a’i ferwi a chwblhau cam 4.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.