Pastai Twrci a Llugaeron
Pastai Twrci a Llugaeron
Gallant hefyd gael eu rhewi cyn eu coginio, felly ni fydd unrhyw rai nad oes eu hangen arnoch yn cael eu gwastraffu.
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 200°C, marc nwy 6.
Rholiwch y toes a thorri 6 chylch â diamedr o 17cm.
Cymysgwch y twrci, y saws llugaeron, y stwffin, y caws meddal a’r pys a’u rhannu rhwng y cylchoedd toes. Brwsiwch ymylon y toes gydag wy a chodi’r ymylon a’u gwasgu i selio’n dda i ffurfio siâp pastai.
Dylech rewi unrhyw does ychwanegol mewn cynhwysydd aerglos ar y pwynt hwn.
Rhowch y pasteiod ar glawr pobi, gyda’r ymylon wedi’u selio’n wynebu ar i fyny a’u brwsio gyda’r wy. Pobwch am 20-25 munud tan eu bod yn euraidd.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.