Macarŵns cartref
Macarŵns cartref
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Gwnewch yn siŵr bod eich tatws stwnsh yn llyfn, heb unrhyw lympiau, yna ychwanegu’r siwgr eisin yn raddol, gan ei gymysgu wrth fynd ymlaen.
Parhewch i ychwanegu’r siwgr eisin tan fod eich cymysgedd tatws yn dod yn bast trwchus.
Rholiwch y cymysgedd yn betryalau o faint unigol, a’i roi ar glawr gwrthsaim ac yna ei drosglwyddo i’r rhewgell a’i adael i setio am tuag awr.
Ar gyfer y gorchudd, toddwch eich siocled mewn dysgl gwrth-wres dros badell o ddŵr sy’n mudferwi.
Rhostiwch hanner y gneuen coco trwy daenu’r cwbl ar glawr pobi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am tua 3 munud neu tan ei fod yn dechrau troi’n euraidd ac yna ei drosglwyddo i ddysgl ac ychwanegu’r gneuen coco sydd heb ei thostio.
Tynnwch eich macarŵns allan o’r rhewgell, yna eu rhoi nhw yn y siocled a’u rholio yn y gneuen coco, a’u rhoi yn ôl ar y papur gwrthsaim i sychu.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.