Pysgodyn wedi'i grilio gyda salsa tomato a pherlysiau
Pysgodyn wedi'i grilio gyda salsa tomato a pherlysiau
Cynhwysion
Ar gyfer y salsa tomato a pherlysiau
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y gril ymlaen llaw ac yna brwsio’r clawr pobi gydag olew a threfnu’r ffiled o bysgod wedi’u rhewi dros y top cyn gwasgaru olew a halen a phupur drostynt. Coginiwch nhw am 6 munud ar un ochr, yna eu troi nhw drosodd yn ofalus.
Yn y cyfamser tynnwch unrhyw jariau sydd wedi’u hagor o’r oergell fel pesto neu ddresin perlysiau a’u rhoi mewn dysgl a chymysgu’r tomatos bach, wedi’u torri, y perlysiau ffres wedi’u torri, y garlleg wedi’i fathru a’r caprys.
Gwasgarwch y salsa dros y ffiledi o bysgod a thaenu caws wedi’i gratio arno, cyn eu rhoi yn ôl o dan y gril a pharhau i’w coginio am 6 munud arall nes bod y pysgodyn wedi coginio drwyddo a bod y topin yn byrlymu.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.