Nwdls cyw iâr un ddysgl
Nwdls cyw iâr un ddysgl
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Rhowch y nwdls mewn dysgl gawl neu fwg mawr sy’n addas i’r ficrodon ac yna arllwyso’r stoc poeth dros y nwdls a’i adael am 3 munud.
Ychwanegwch y cyw iâr, y moron, y pys, y pupur coch a’r shibwns ac yna cymysgu’r blawd corn, y saws soi ysgafn, y 5-sbeis ac 1 llwy fwrdd o ddŵr oer mewn dysgl fach. Arllwyswch y cymysgedd blawd corn dros y nwdls yna cymysgu popeth gyda’i gilydd gan sicrhau bod y llysiau wedi’u dosbarthu’n gyfartal trwy’r ddysgl.
Gorchuddiwch y ddysgl gyda haenen lynu a’i roi yn ficrodon ar Uchel am 2 funud, gan droi hanner ffordd trwy goginio, tan fod y cyw iâr yn chwilboeth. Gadewch i sefyll am 1 munud cyn ei weini.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.