Stiw llysieuol gyda bresych a menyn
Stiw llysieuol gyda bresych a menyn
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Mewn padell fawr, toddwch ddarn o fenyn ac ychwanegu’r winwns, rhan gwyn y shibwns a’r ewin garlleg, a’u toddi dros wres isel am 2-3 munud.
Ychwanegwch y llysiau sy’n weddill a’u ffrio’n ysgafn.
Ychwanegwch y passata, y dŵr, y ffa menyn, y stoc a’r halen a phupur.
Rhowch gaead ar y sosban a choginio’r cynhwysion am 60 munud, gan wirio’n rheolaidd i droi ac ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen.
Paratowch y bresych â menyn ac ychwanegu’r bresych wedi’i dorri’n fân i sosban gydag ambell lwy fwrdd o ddŵr a’u coginio tan eu bod yn feddal. Draeniwch unrhyw ddŵr sy’n weddill a chymysgu darn o fenyn yn y gymysgedd ac ychwanegu blas gyda halen a phupur.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.